Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Edrydd "E.D., Sef Hoffwr Cyfiawnder" stori ryfedd am ddau o swyddogion eglwys "nid 100 milldir o Benrhyn-deu-draeth". Gwnaethid y casgliad at y weinidogaeth yn rheolaidd yn eu heglwys, ond y mae'n ymddangos bod y ddau swyddog wedi eu defnyddio i'w hamcanion eu hunain, ac aeth "y ddau lwynog" i'r Cyfarfod Chwarter yn y Dyffryn gyda "phapyr gwyn yn lle arian a gasglwyd gan y tlawd." Wrth adrodd yr hanes ni all E.D. guddio ei ragfarn yntau yn erbyn "gwyr y Cotiau duon" a'i gyd- ymdeimlad â'r "Pregethwyr cynnorthwyol, (pa rai sydd yn ddi- sylw gan y reverends)". Dywaid i'r ddau swyddog gael eu holi yn y Cyfarfod Chwarter "gan y pen steward (mae'n debyg)' pa Ie yr aethai'r arian, "a oeddynt wedi myned at gynnal y Local Preachers; na dim siwt beth, am nad yw y C-n-ff-r-n-s yn caniatau nothing iddynt hwy poor fellows; ac os gwir a glywsom eu bod hwy wedi eu hattal trwy wneuthur deddf y Mediaid a'r Persiaid, mewn cwrdd ch-w-r-t, na byddai iddynt ganiattau i neb o'r gwyr dibarch i'r gylch ond yn unig trwy ganiattad y pretenders bonheddig. Ac y mae hyn yn brawf digonol fod cadwyn y local yn fer. Poor things eu bod hwy o dan y fath awdurdod mor gaeth," (tt. 135-6). Nid gwaith anodd yw canfod y tebygrwydd rhwng agwedd Twr Gwalia at y Cyfundeb a'r eiddo'r "Wesle Bach". Amryw (Miscellaneous) 31. Earlu Methodism in Cardiff: The members of the Methodist society in Church Street, Cardiff were in arrears in respect of the land tax on their meeting-room to the sum of 3s. 4td. in 1767, and these arrears were not cleared in 1787. The Rate Book of King's Tax for the Town of Cardiff, 1788. (MS. 3.602 at Cardiff Central Library). — Ed. 32. Elizabeth Glascott, Cardiff: An Elizabeth Glascott, widow, who- owned a house and garden in the street leading from Castle Street to the North Gate was in arrears to the sum of 11s. 3d. in 1787. (ib.) Was she the widow of Thomas Glascott, the friend of John Wesley?-Ed. 33. Dr. E. Tegla Davies: Er pan gyhoeddwyd y rhifyn diwethaf o Bathafarn cyflwynwyd i'r Parchedig E. Tegla Davies, M.A. gan Brif- ysgol Cymru y radd o D.Litt., er anrhydedd, am ei wasanaeth mawr i lenyddiaeth Gymraeg. Y mae doniau amryfal a disglair y Dr. Davies fel pregethwr. darlithydd a llenor, ac fel gweinidog cylchdaith. yn hysbys i Gymru gyfan, eithr nid mor hysbys efalIai-o leiaf y tu allan i'r cylch Methodistaidd-yw ei ddiddordeb yn. a'i gyfraniad i, Hanes ei Gyfundeb yng Nghymru. Ef a sgrifennodd y bennod ar Wesleath Gymreig yn y gyfrol hylaw honno. The Methodist Church: its Origins, Dŵisions and Reunion, a gyhoeddwyd adeg yr Uno- mawr yn 1932: ef hefyd a draddododd y Ddarlith Hanes i'n Cym- deithas yn 1949 a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn hwn y flwyddyn wedyn; ac ef a gafodd y gorchwyl aruthrol o ddarllen Hanes yr Achosion Lleol yn Hanes Wesleaeth Gymreig y Dr. Hugh Jones a'u