Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er nad yw'n uniongyrchol ar y pwnc; diddorol yw cael 'Hanes y Creu' gan Glanystwyth,76 a chais i ateb 'pa mor bell y mae Genesis I a Daeareg yn cytuno'. 'Os cymerir golwg eang ar bethau, fe welir fod y ddau hanes o ran eu hosgo cyffredinol yn berffaith gyson â'u gilydd'. Wrth adolygu llyfr Dr. Cynddylan Jones, 'Duwinyddiaeth y Cyfundeb' y mae R. Lloyd Jones yn mynegi ei bryder (fel Cynddylan yntau) fod uwchfeirniadaeth yn mynd yn rhy bell ac yn peryglu ein cred yng ngwirionedd hanesyddol y Beibl, gan wrthdaro â'r elfen oruwchnaturiol sydd ynddo. Nid oedd Llestri'r Trysor mewn bod eto, ond y mae'n debyg fod ei awduron eisoes wrthi yn hogi eu meddyliau at ei lunio. VI Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd syniadau am wahanol weddau ar Ddamcaniaeth Datblygiad wedi bod yn cyffroi llawer ar ddynion ac yn para i ddal eu sylw fel math o gefndir i feddwl y cyfnod. Ysgrifennodd Glanystwyth ar 'Ddatblygiad a Christionog- aeth'.78 'Nis gall mater gynyrchu meddwl, na gweithrediad peirianol gynyrchu syniad, na gweithrediad fferyllol gynyrchu ymwybodaeth. Rhaid wrth allu uwch na nerthoedd anian i gynyrchu bywyd, synwriaeth, a rheswm. Mae dyn yn greadigaeth neillduol o eiddo Duw'.79 'Nid yw y wybodaeth am Dduw geir gan Gristionogaeth wedi ei dadblygu o ffynonellau naturiol, er hyny, perthyna dadblygiad i'r wybodaeth am Dduw, oblegid fod y dadguddiad a roddodd Duw ohono ei hun yn raddol Mae dadguddiad yn blaenori dadblygiad'.80 Yn yr un modd: 'Nid cynyrch dadblygiad naturiol ydyw moeseg Cristionogaeth. Nis gall y moesol fod yn gynyrch y materol. Mae y ddelfryd foesol yn wahanol a gwrthwynebol i gwrs y byd (cosmic process): Pwysleisir fod y pethau hyn yn oruwchnaturiol. 'Rhagdybia crefydd weithrediad uniongyrchol o eiddo Duw, ac nis gall dim arall roddi cyfrif boddhaol amdani. Os na bydd i Dduw lefaru ynom, mae crefydd yn anmhosibl; ac oni bydd iddo lefaru wrthum, bydd crefydd yn anherffaith. Nis gellir byw Cristionog- aeth heb gymhorth goruwchnaturiol'.81 7Hb., 1902, 1-8. "ŕЬ., 1903, 57 &c. nib., 1899, 165-70. nib., 1899, 167. lOib., 1899, 168. "i& 1899, 170.