Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llythyrau Trefeca a Wesley Gan y Parch. GOMER M. ROBERTS, M.A., Llandudoch FEL y byddech yn disgwyl, ceir cyfeiriadau di-rif at y brodyr Wesley yn llythyrau Trefeca, ond prin y disgwyliech i mi, mewn anerchiad o'r natur yma, eu rhestru i gyd na gwneud trefn ohonynt. Y mae rhai ohonynt yn delio â materion personol iawn, ac eraill yn ymwneud â'r gwahaniaethau diwinyddol a barodd y fath rwyg ymhlith y diwygwyr Methodistaidd. Yn ôl ei ddyddiadur, cyfarfu John Wesley a Howel Harris â'i gilydd ym Mryste 18 Mehefin 1739.1 Yr oedd calon Harris yn llawn rhagfarn oherwydd yr hyn a glywsai am Wesley. "But as soon as I heard you preach", meddai, "I quickly found what spirit you was of. And before you had done I was so overpowered with joy and love that I had much ado to walk home". Ar wahoddiad Harris daeth Wesley i Gymru ym mis Hydref. Clywodd John Miles ef yn pregethu yn Abergafenni, a thystiolaetha wrth Harris iddo bregethu Crist yn eglur, nad Arminiad mohono onid oedd yn credu'n groes i'r hyn a bregethai.2 Bu Wesley a Harris yn gohebu â'i gilydd ar ôl hyn. "Tonight I rec'd yours" — fel yna y dechreua Harris lythyr yn Chwefror 1740,3 eithr nid yw'r llythyr hwnnw oddi wrth Wesley, hyd y gwn i, ar gael bellach. Teimlai Harris yn gynnes o ran ei ysbryd. "Shall I hide from you", meddai, "how nearly ye Spirit of God did knit my soul to you". Y mae Anne Dutton, mewn llythyr at Harris ymhen ychydig ddyddiau,4 yn cytuno ag ef fod Wesley yn sant gogon- eddus, ei bod yn ei anrhydeddu fel un o weision Crist, ac yn credu y daw rywbryd i weld fod etholedigaeth bersonol, pryned- igaeth neilltuol, parhad mewn gras, &c., yn athrawiaethau gras. Dyna'r gwahaniaethau diwinyddol wedi dod i'r golwg ar ddechrau perthynas y ddau wr mawr â'i gilydd. Clywodd Edmwnd Jones o'r Transh ym mis Mai fod John Wesley yn cyhoeddi, ar ôl ei ymweliad â Chymru, ei fod wedi argyhoeddi Harris, neu o'r hyn lleiaf ei anwadalu. Rhybuddia Edmwnd Jones ei gyfeillion yng Nghymru i beidio â gorhoffi Wesley. "I have some suspicion", meddai wrth Harris, "that he is not right".5 Cwyna John Acourt wrth Harris yng Ngorffennaf6 fod Wesley, xJournal (standard ed.), ii. 223-4. 'Trevecka Letter, 280, a ysgrifennwyd 24 Hyd. 1739 (nid 1740,-gw. G. T. Roberts yn Proceedings W.H.S., xxvii. 112). 'T.L., 212 (1 Feb. 1740). 4T.L., 215 (4 Feb. 1740). 'T.L., 243 (9 May 1740). •T.L., 257 (3 July 1740).