Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynau ac Emynwyr Wesleaidd Cymraeg (Parhad) Gan Mr. TUDOR PROFFIT, B.A., Oueensferry, Caer IV Nid arferwyd Llyfr Emynau 1900 fwy nag ychydig dros chwarter canrif, canys daeth llyfr newydd ar y tir at wasanaeth y ddau gyfundeb Methodistaidd — "Llyfr Emynau y Methodist- iaid Calfinaidd a Wesleaidd, 1927." Ynddo fe gyhoeddwyd rhai o emynau Charles Wesley a fu'n y casgliadau blaenorol-dau ar hugain, yn ôl y Parch. John Thickens, gan gynnwys yr emyn "Mae arnaf eisiau sêl" (440), sef cyfieithiad Dafydd Jones o Gaeo o'r emyn "I want a true regard. '26 At hyn, cadwyd cyfieithiad John Wesley o'r emyn Almaenig y cyfeiriwyd ato yn flaenorol ("Hiraethu'r wyf, Oen addfwyn Duw") yn Llyfr Emynau 1927. Cafwyd ynddo, hefyd, ychydig emynau newydd gwreiddiol gan ddau weinidog Wesleaidd: Y Parch. W. O. Evans (1864-1936), Y Parch. D. Tecwyn Evans, M.A., D.D. (1876-1957). Un gwaith da a wnaeth y ddau awdur uchod oedd trosi o'r newydd i'r Gymraeg un neu ddau o emynau Charles Wesley. Arwain hyn ni i sylwi ar un peth sy'n dal i nodweddu "emyn- wyr" Wesleaidd ein cenhedlaeth ni, megis gyda chenedlaethau blaenorol: pery Llyfr Emynau John Wesley, 1779 i gyffroi'r meddwl a gwelir cyfoeth newydd ynddo o hyd. Troswyd mwy nag un o emynau Charles Wesley, ac emynau eraill o'r "Method- ist Hymn Book" (1933) ar ôl i lyfr Emynau 1927 ymddangos, gan y Parch. D. Tecwyn Evans ac eraill. Am hynny, nodwn rai emynau a chyfieithiadau a ymddangosodd mewn cylchgronau "Wesleaidd" y ganrif hon yn yr adran hon. Cafwyd peth o waith cynnar W. O. EVANS yn Llyfr Emynau 1900, sef yr emyn "Anfon, Arglwydd Dduw Elias" (650) a'i gyfieithiad o emyn Isaac Watts, "O God, our help in ages past, Eithr bu newid ar y cyfieithiad erbyn Llyfr Emynau 1927 — enghraifft o'r byd newydd a oedd ohoni yn iaith a llên Cymru. Cymharer y ddau bennill: (1900) (Emyn 49) Cyn gwneyd mynyddoedd o un rhyw, Cyn llunio "llwch y byd," O dragwyddoldeb Ti wyt Dduw- Parhei yr un o hyd.