Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRGELLOEDD. &c. Y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwych. eto U.C.N.W. Bangor. eto U.C.W. Aberystwyth. eto U.C. Swansea. eto U.C.S.W. Cathays Park, Cardiff. eto Flintshire County Library. Hawarden. eto Denbighshire County Library, Ruthin. eto Cardiganshire County Library, Aberystwyth. eto Carmarthenshire County Library, Carmarthen. eto Montgomeryshire County Library, Newtown. eto Caernarvonshire County Library, Caernarvon. eto Anglesey County Library, Llangefni. eto Merioneth County Library. Dolgelley. eto Central Library, The Hayes, Cardiff. eto Town Free Library, Caernarvon. eto John Rylands Library, Manchester. eto Meyrick Library, Jesus College, Oxford. eto Manchester Public Libraries, Manchester. eto Swansea Public Library, Swansea. eto Borough of Llanelli Public Library, Llanelli. eto Coleg Harlech, Harlech. eto The Library, The University, Liverpool 3. eto Public Library, Bangor. eto The Public Library, Cardiff. The National Museum of Wales, Cardiff. RHODDION (GIFTS) 25. Gan Miss Elwy Hughes, M.A., Bangor. 1. Casgliad o lythyrau y Parchedig Samuel Davies, 'yr Ail' (1818- 1891). Ysgrifennwyd y llythyrau yn Gymraeg gan Samuel Davies at ei gyfaill John Roberts (A), (1820-1882). Brodor o Ddinbych ydoedd John Roberts. Bu yng ngholeg Richmond 1843-5 a dechreuodd deithio yn Alston, Cumberland yn 1845. Treuliodd ei yrfa yn y gwaith Saesneg a bu farw yn Amwythig yn 1882. Gwelir ei Gofiant yn yr Eurgrawn, 1883. Y mae 48 o'r llythyrau; ysgrifenwyd y cyntaf ohonynt yn Ebrill 1840 a'r olaf yn Ionawr 1850. Cynhwysir ynddynt lawer o wybodaeth am y cylchdeithiau eang Cymraeg, gwaith y weinidogaeth, anawsterau teithio yn oes y ceffyl a'r goets fawr, symudiadau cyfundebol, myfyrdod a darllen S. Davies ar ddechreu ei yrfa, ynghyda chyfeiriadau diddorol a beimiadol weithiau, at bersonau amlwg yn y byd Wesleaidd, yn y pedwar degau o'r 19 ganrif. 2. "Ychydig Gofnodion am Ameylchiadau Bywyd Richard Pritchard, Gweinidog Wesleyaidd, wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hun". Cyhoedd- wyd dyfyniadau helaeth o'r "Ychydig Gofnodion" yng nghofiant Richard Pritchard (1811-1882) yn yr Eurgrawn 1886 gan y Dr. Hugh Jones. 3. Llythyr gan y Parchg. Thomas Aubrey o '11 Crown St., Liverpool' at y Parchg. Hugh Jones, dyddiedig Mawrth 26, 1862. Yr oedd Aubrey bryd hyn yn Arolygwr Cylchdaith Lerpwl a Chadeirydd y Dalaith a Hugh Jones yn weinidog ieuanc ar brawf yn cydlafurio â'r Parch. David Evans (Degar) ar gylchdaith Llanfyllin. 4. Datganiad gan y Parch. William Evans (1779-1854) dyddiedig Ionawr 11. 1850 parthed "Dechreuad ac Amgylchiadau'r Achos Wesley- aidd yn Llanrhaeadr ym Mochnant 1807" M. PENNANT LEWIS.