Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Pulpud Wesleaidd yng Nghyfnod Thomas Aubrey Gan y Parch. M. PENNANT LEWIS, B.A., B.D., Uangefni GWAHODDIAD a gefais a phwnc a awgrymwyd imi i draethu arno. Y Pwyllgor Hanes yn un o'i gyfarfyddiadau a fu'n gyfrifol am y naill a'r llall, a'r cyfarfyddiad hwnnw o'r Pwyllgor yw'r unig un erioed imi fethu bod yn bresennol ynddo! 'Arweddau ar Hanes Wesleaeth Gymraeg yng Nghymru yn y Cyfnod yn dilyn 1858' oedd teitl y pwnc a ddewiswyd ganddynt ar fy nghyfer, ac o'r diriogaeth eang hon dewisais innau un maes yn unig i lafurio ynddo, sef nod- weddion y Pulpud Wesleaidd yn y blynyddoedd yn dilyn 1858, sef cyfnod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dewisais sôn am y 'Pulpud' er mwyn cael rhyddid i gyfeirio at frodyr cynorthwyol a esgynnai iddo, yn ogystal â'r gweinidogion, a sôn weithiau am flaen- oriaid a lefarai yn ei gysgod. Ond yn bennaf, astudiais deithi'r Weinidogaeth Wesleaidd ym mlynyddoedd cadeiryddiaeth Thomas Aubrey, 1855-1865, arweinydd amlycaf y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg yng nghyfnod canol y ganrif. 1. Trem ar y Gwaith Cymraeg yn 1861. Y mae'r flwyddyn yn fan-cychwyn defnyddiol iawn i'n hastud- iaeth, gan mai dyma, i'm tyb i, flwyddyn anterth dylanwad Aubrey yn y gwaith Cymraeg. Blwyddyn i'w chofio yw 1861 — canrif union yn ôl. Ar ddydd cyntaf Medi 1861 dechreuodd John Evans, Eglwys- bach, yn y Weinidogaeth reolaidd ac ar ddydd Nadolig bu farw Rowland Hughes, un o'r pregethwyr grymusaf a roesom i Gymru erioed. Edrychwn yn awr ar restr Sefydliadau'r Gweinidogion yn rhifyn Medi 1861 o'r Eurgrawn.- Y mae 15 o gylchdeithiau yn y De, a 22 yn y Gogledd. Cadeirydd Talaith y De yw'r Dr. Thomas Jones a Chadeirydd y Gogledd yw Thomas Aubrey. Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hynny Yn Aberdâr, Isaac Jenkins ddysgedig; yn Aberystwyth, William Powell felys ei ddawn; ym Machynlleth neb llai na 'Gwilym Lleyn'; yn Llanidloes y gwron Owen Owen; Dol- ffannog; yn Nolgellau yr hynod Isaac Jones; yng Nghoed-poeth Richard Prichard; yn y Llyfrfa ym Mangor Samuel Davies (yr Ail) 'Traddodwyd sylwedd yr ysgrif hon yn Ddarlith y Gymdeithas Hanes yng Nghapel Coffa, Porthmadog, Mai 30, 1961, yn ystod y Gymanfa a Mr. G. W. Kershaw. Bangor, yn y Gadair. 'Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1861, t. 322.