Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amryw (Miscellaneous) 38. Yr Hen Gapel, Tre'rddol: Yn y capel hwn, a saif ar ddarn o dir yn perthyn i fferm Ty'n-y-wern, y cychwynnodd Diwygiad '59, ac yma, yn ei fro enedigol, y pregethodd y Diwygiwr Humphrey Jones i gynulleidfa difrifddwys, a'r capel dan ei sang am wythnosau lawer. Canlyniad hyn oedd i'r Diwygiad, dan ei arweiniad ef a Dafydd Morgan, Ysbyty, ymledu a gorlifo nes gweddnewid Cymru gyfan. Aeth yr Hen Gapel yn fuan iawn yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd capel newydd yn mhen arall y pentref. Yn ddiweddar, aeth yr Hen Gapel ar werth, ac fe'i prynnwyd gan Mr. R. J. Thomas, M.A., a'i gyfadd- asu a'i agor fel amgueddfa leol a llyfrgell grefyddol. Y bwriad yw arddangos offer hen grefftau a diwydiannau yn yr amgueddfa, ac yn y llyfrgell lyfrau a dogfennau'n ymwneud â Diwygiad '59 ac â hanes Methodistiaeth Wesleaidd a chrefydd yn gyffredinol yng Nghymru. Haedda Mr. Thomas ein diolch cynnes am ei weledigaeth a'i haelioni, ac os dymuna aelodau'r Gymdeithas hon ei helpu gyda rhodd o arian neu rodd (neu fenthyciad) 0 lyfr neu lawysgrif neu ddodrefnyn o werth hanesyddol, bydd yn ddiolchgar dros ben. Ei gyfeiriad yw Bryn Derw, Taliesin, Machynlleth, sir Drefaldwyn. 39. Gair i'r Methodist. Ceir cyfeiriad at y pamffled A Word to a Meth- odist a luniodd John Wesley ar gais Thomas Ellis, Caergybi, ac a gyfieithiwyd i'r Gymraeg, yn A. H. Williams, Welsh Wesleyan Meth- odism, tt. 20n, 327. Gan nad yw'n hawdd taro ar gopiau o'r pamffled hwn, bydd ymchwilwyr yn falch o wybod, ond odid, fod copi o'r cyfieithiad Cymraeg (argr. 1751) ar gael yn Llyfrgell Coleg y Bala. I'r Parch. Gomer M. Roberts, M.A., ý mae'r clod am ddarganfod hyn ac anfon yr wybodaeth ymlaen. — G.T.R. 40. Pererindod. Ddydd Sadwrn, Medi 10, 1960, trefnwyd pererindod gan aelodau'r Eglwys Fethodistaidd, Graigfechan, Cylchdaith Rhuthun i Leek, sir Stafford, i ymweld â bedd Edward Jones, Bathafarn. Croesawyd y cwmni wrth borth Capel Mount Pleasant, Leek gan y gweinidog, y Parch. Joseph Williams, Arolygwr Cylch- daith Leek. Yna cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel dan arweiniad y Parch. T. Noel Evans, B.A., B.D., gyda chynorthwy nifer o bobl ieuainc. Cyn ymweld â'r bedd, darllenwyd rhannau o'r Beibl gan Mr. Alec Jones, Coleg Cliff, a rhoddwyd hanes gyrfa Edward Jones gan Mr. R. H. Williams, Graigfechan, un o swyddogion ein Cym- deithas Hanes. Tybed ai dyma'r tro cyntaf i'r fath bererindod gael ei threfnu i fedd un o arloeswyr yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru? Llongyfarchiadau calonnog iawn i gyfeillion Graigfechan ar eu sêl a'u diddordeb hanesyddol.-H.M.P.L. 41. Mr. J. E. Jones, Creunant. Gyda gofid dwys y cofnodwn farwolaeth y gwr annwyl hwn, a fu am flynyddoedd yn Ysgrifennydd Cyllid y Gymdeithas hon yn Nhalaith y De. Yr oedd yn "Wesle" i'r carn, a daliai nifer o swyddi pwysig yn y cyfundeb a'u cyflawni oll gyda'r gofal a'r manylder hwnnw a oedd mor nodweddiadol ohono. Tawel, di-rodres a diymhongar, enillai barch ac edmygedd pawb, a mawr yw'r golled ar ei ôl i bawb a gafodd y. fraint o'i adnabod, ac o'i adriabod, ei anwylo. — A.H.W