Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ebrill26. Diwmod gwerthfawr iawn ar y cyfan. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn fawrion, a'r gair yn effeithiol. Daliwyd chwech. Ond nid oedd Isaac Jones ar ben y mynydd bob amser, na'r gwynt o'i du: Tachwedd, 29, 1857. Nid mor dda heddiw. Mae oedfaeon sychlyd yn blino fy ysbryd. O Arglwydd, tywallt dy Ysbryd ar y gwahanol gynulleidfaoedd, a dyro i minau gael fy medyddio o'r newydd. Ac fe gafodd, oherwydd yr oedd yn Llanerfyl rhwng Ionawr 11 a 16 y flwyddyn wedyn yn cadw cyfarfodydd adfywiadol, a dywaid: Ymunodd 44 â'r eglwys, ond beth ddaw ohonynt nis gwn. Dichon na ddaw eu haner yn mlaen. Y mae'n amlwg oddi wrth y dyfyniadau hyn fod y bedydd tân a gerddai yn amlder ei rym yn yr Unol Daleithiau ar y pryd o dan arweiniad Jonathan Edwards ac eraill wedi dechrau'n ddirgel yn y gylchdaith, a rhannau eraill o Gymru, cyn i Humphrey Rowland Jones, Tre'r-ddol, gludo'r wreichionen dros Fôr Iwerydd a chyn i Ddafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, roi Cymru ar dân ym 1859. (i'w barhau)