Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
1662 1962
ERBYN cyhoeddi'r rhifyn hwn, bydd y pedwar enwad Ymneill-
tuol yng Nghymru wedi dathlu tri-chanmlwyddiant y diarddel
(neu'r Troi Allan) a fu yn 1662. Eisoes cynhaliwyd nifer o gyfar-
fodydd arbennig-buom ni'r Methodistiaid yn hynod o ffodus i
sicrhau gwasanaeth y Parch. Ddr. Tudur Jones yn ein Cymanfa-
a chyhoeddwyd nifer o lyfrau ac erthyglau. A'r cyfan gyda'r un
amcan syml: ein hatgoffa o arwyddocâd y flwyddyn dyngedfennol
honno, oblegid dyna'r pryd y ganed Anghydffurfiaeth yng Nghymru
a Lloegr fel ei gilydd. Afraid felly, a braidd yn hwyr ar y dydd,
yw i ni chwanegu at y toreth geiriau a lefarwyd ac a sgrifennwyd
yn barod. Ond ni allwn lai na sylwi'n fyr mewn Cylchgrawn Hanes
fel hwn ar y digwyddiad pwysig hwn-digwyddiad o bwys eithriadol
yn hanes crefydd yng Nghymru, ac o gryn bwysigrwydd i ninnau
hefyd fel Anghydffurfwyr Methodistaidd, er nad oeddym yn bod
dair canrif yn ôl. Bodionwn felly ar ychydig sylwadau cyffredinol
wrth dalu teyrnged fechan fel hon i'r Piwritaniaid dewr a arloesodd
ffordd rhyddid crefyddol i ni a phawb arall a ddaeth ar eu hôl.
Yn gyntaf, y mae'n hen bryd i ni fel Anghydffurfwyr sylweddoli
nad dygwyl Sant Bartolomeus, Awst 24, 1662-dydd y dathlu
mawr-oedd dydd ein geni; ein camarwain i gredu hynny a gawsom
ar hyd y blynyddoedd gan yr hanesydd Ymneilltuol Calamy. Dych-
welodd y brenin Siarl II i Lundain o'i alltudiaeth ar Fai 29, 1660;
pasiwyd Deddf Unffurfiaeth ar Fai 19, 1662; daeth i rym ar Awst
24 yr un flwyddyn, dygŵyl Sant Bartolomeus; a dyna ddechrau
Anghydffurfiaeth. Dyna'r ymresymiad-a dyna'n anffodus y gred
boblogaidd o hyd. Ond mewn gwirionedd, dechreuodd gofidiau'r
Piwritaniaid yn hir cyn y diwrnod hwnnw. Ar "Bartolomeus Ddu"
collodd tua 31 o Biwritaniaid Cymru eu bywoliaeth oherwydd
Deddf Unffurfiaeth, eithr rhwng Mai 29, 1660, a'r dyddiad hwnnw
aethai 93 eraill i'r anialwch o'u blaen. Climax-uchafbwynt-y Troi
Allan, felly, yn hytrach na'i ddechrau oedd dygwyl Sant Bartolo-
meus.
Yn ail, yn union fel y mae'n hanesyddol anghywir i ni briodoli'r
holl ddiarddel i Ddeddf Unffurfiaeth, felly hefyd y mae'r un mor
anghywir i ni olrhain holl ddioddefiadau'r Piwritaniaid iddi; rhaid
cofio Côd Clarendon yn ei gyfanrwydd i ddeall helbulon Anghyd-
ffurfwyr Cymru rhwng 1662 a 1689, pan basiwyd Deddf Goddefiad.
Dyna Ddeddf y Corfforaethau (1661), er enghraifft, a gyfyngodd
aelodau o gorfforaeth tref i'r rheini a gymunai yn Eglwys Loegr.
Dyna Ddeddf y Cyrddau (1664), a wnaeth bob cyfarfod crefyddol
o fwy na phump o aelodau (ar wahân i aelodau'r teulu) yn anghyf-
reithiol. A dyna Ddeddf y Pum Milltir (1665) drachefn, a wahardd-
odd bob Anghydffurfiwr rhag byw mewn tref gorfforedig nac o
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.