Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a gwnaed hyn Wedi cyrraedd Cape Town cytunwyd i barhau y dosbarth gan gyfarfod pob prynhawn Sabboth. 'Roedd eisioes nifer o Gymry yn y ddinas a Chymdeithas wedi ei sefydlu ganddynt, ond Saesneg oedd ei hiaith. Ymunodd rhai o'r Cymry hyn â'r dosbarth (G.C.J.). Megis yn hanes yr Eglwys Gristionogol ym mhob oes ac ym mhob gwlad, darllen yr Ysgrythur Lân a roes fod i'r Eglwys Gymreig hon. Yn achlysurol, cafodd y dosbarth Beiblaidd oedfa gan weinidogion Cymreig a oedd yn ymweld â'r wlad neu a oedd yn gofalu am Eglwysi eraill yn y cylch O dro i dro ceid pregeth Gymraeg pan fyddai pregethwr Cymraeg yn ym- weled a'r cylch. Yn eu mysg cafwyd y Parchedigion John Owen, yr Wyddgrug, ac Evan Rees (Dyfed), pan ar eu taith i Johannesburg tros eu Cyfundeb [Y Methodistiaid Calfinaidd]. Pan ddaeth y Parch. Ben Evans3 yn weinidog Eglwys Gynulleidfaol Observatory, ger Cape Town, ym 1902, ymgymerodd â phregethu yn y Cwrdd Cymraeg yn fisol. (G.C.J.). Fe gofir fod y flwyddyn 1902 yn flwyddyn terfyn y rhyfel rhwng y Prydeinwyr a'r Boeriaid ( τ 8gg-τ 1902). Ar ôl y rhyfel hwn, bu cynnydd yn rhif y Cymry a ymfudodd i Dde Affrig, a'r cynnydd hwn a'i gwnaeth yn bosibl i gorffori'r dosbarth Beiblaidd yn Eglwys. Pan ddaeth y rhyfel yn erbyn y Boeriaid (1899 — 1902), amlhaodd nifer y Cymry, ac yn arbennig felly pan ddaeth diwedd y rhyfel. Gwelwyd eisiau mwy nag un cwrdd yn fisol i gyfarfod ag angen y nifer mawr o Gymry oedd yn y ddinas a'r cylchoedd. Penderfynwyd cynnal cwrdd pob nos Sabboth yn ogystal a'r dosbarth Beiblaidd pob prynhawn Sabboth. Cafwyd fod nifer boddhaol yn awyddus i symud ymlaen i ffurfio Eglwys yn ddioed ac i ystyried galw gweinidog i'w gwasanaethu. Y dymuniad cyffredinol oedd am i'r Eglwys fod yn un anenwadol. Anfonwyd llythyr at holl Gymry y ddinas a'r cylchoedd i ofyn iddynt gyfarfod i ystyried ffurfio Eglwys a galw Gweinidog, a daeth nifer dda yno. Penderfynwyd gwneud hynny a derbyniwyd addewidion ariannol sylweddol i ganiatau galw Gweinidog.4 (G.C.J.). II. PATRWM UNDEB-EI CHREDO I ni, heddiw, sydd o dan reidrwydd i feddwl ynghylch trafodaeth- au Undeb Eglwysig, y mae sail yr Undeb y cytunodd yr Eglwys hon arno o ddiddordeb byw. Rhydd Mr. G. Cleaton Jones y tair rheol cyntaf o'r Rheolau Sylfaenol a fabwysiadwyd gan yr Eglwys (1) Ein bod ar sail ein crediniaeth yn Nuw Dad ac yn Iesu Grist, ei Fab, Unig Waredwr pechaduriaid, ac yn yr Ysbryd Glân, y Tri yn Un a'r Un yn Dri, yn ymuno gyda'n gilydd yn Eglwys yn Cape Town, i hyrwyddo dyfodiad Teyrnas Dduw i'r byd. SY Parch. Ben Evans, m.a., — genedigol o Fargoed. Daeth i Port Elizabeth, Mehefin 1898, i gymryd lle, am dymor, weinidog Eglwys Bantuaidd Annibynnol. Yna, ym 1899, symudodd i Eglwys Annibynnol Saesneg Worcester. Wedi hynny daeth i Cape Town. (Llythyr G.C.J. 1/7/60). 4Rhydd Mr. G. Cleaton Jones y nodyn hwn Yn adroddiad yr Eglwys am y cyfnod o Dachwedd 1903 hyd Mawrth 31, 1904, dywedir fod nifer yr aelodau yn 109 a'r casgliadau yn !'349.'