Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFFÂD Y diweddar Barch. W. MORRIS JONES, B.A. (1882— 1968) Gany Parch. M. PENNANT LEWIS, B.A., B.D., Caernarfon Dydd Gwener, Gorffennaf 12, 1968 bu farw'r Parch. W. Morris Jones yn yr ysbyty yn Y Rhyl, yn 86 mlwydd oed. Yn ei farwolaeth collwyd un o gefnogwyr ffyddlonaf y Gymdeithas Hanes o'r dechrau, a chymwynaswr cyson ar hyd y blynyddoedd. Dyledus iawn oeddym iddo am ei gefnogaeth yn y dyddiau cyntaf pan drafodwyd y syniad o sefydlu'r Gymdeithas a chyhoeddi cylchgrawn. Fel Golygydd Y Gwyliedydd Newydd rhoddodd groeso ar dudalennau'r papur i sylwadau ac awgrymiadau pob un a ymddiddorai yn y bwriad, ac agorodd y drws i'r rhai a fynnent astudio ein hanes drwy chwilio'r llyfrau a'r dogfennau a gedwid yn y Llyfrfa ym Mangor. Cofiwn mai yno, ar ei aelwyd, y cyn- haliwyd y Pwyllgor Hanes cyntaf ar ddydd o haf hir-felyn yng Ngorffennaf y flwyddyn dyngedfennol 1944. Melys yw'r atgof am groeso brwd y Goruchwyliwr a'i briod yn y cyfarfod cyntaf hwnnw, y cyntaf o lawer a gafodd aelodau'r Pwyllgor ganddynt ym Mangor ac yn Y Rhyl. Bu'n aelod o'r Pwyllgor ar hyd y blynyddoedd, ac yr oedd ei gyfraniad bob amser yn un tra gwerthfawr, yn enwedig gan ei fod mor gyfarwydd â byd busnes, argraffu a chyhoeddi. Byddai'n ffraeth a chyrhaeddgar ar adegau, a byddai dadl frwd, gyfeiUgar ar ambell bwynt mewn Uên a hanes yn debyg o ddigwydd yn lled aml rhyngddo a'r Dr. D. Tecwyn Evans. Cofiaf hefyd iddo an- rhydeddu un cinio yng nghartref y Doctor, Deunant, Y Rhyl, drwy adrodd cyfres o benillion a gyfansoddodd i ddiolch dros y cwmni am y croeso a gafwyd. Daeth iddo'r anrhydedd, fel Llywydd Cymanfa 1946, 0 lywyddu Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y Gymdeithas-y tu allan i'r Neuadd Farchnad yn Llanidloes ym 1946. Y diwrnod hwnnw dadorchudd- iwyd plaque ar Garreg John Wesley i goffau ymweliadau Wesley â'r hen dref ar ei deithiau yng Nghymru. Diwrnod hyfryd ydoedd, a chofiafyn dda ddifyrrwch y daith yn ôl i'r Gogledd-W. Morris Jones yn gyrru'r modur, yr Athro R. T. Jenkins wrth ei ochr, a'r Parch. Griffith T. Roberts a minnau'n eistedd yn y cefìi. Ym 1957 bu farw'r Dr. Tecwyn Evans, ein Cadeirydd cyntaf, a dewiswyd y Parch. W. Morris Jones i'w olynu. Parhaodd yn y swydd hyd 1962, pan ddymunodd gael ei ryddhau. Yn dilyn hynny bu peth newid ar gyfansoddiad a swyddogaeth y Gymdeithas ac etholwyd ef yn un o'r ddau Lywydd Anrhydeddus. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid oedd yn ddigon cryf i deithio i gyfar-