Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEORGE BOWEN, LLWYN-GWAIR, A'I DEULU (Parhad) Gany Parch. W. ISLWTN MORGAN, Bryn-mawr James Bowen (1759 — 1816) oedd yr hynotaf o blant George ac Easter Bowen o ran ei gysylltiadau Methodistaidd, ond cyn sôn amdano ef, gwell yw bwrw golwg dros ei frodyr. Milwr oedd William, yr ail fab, a thybed nad ef yw'r William Bowen, Llwyn-gwair, a dderbyniodd, ym 1807, 105 o Feiblau Cymraeg, o'r argraffiad cyntaf yn Gymraeg gan Gymdeithas y Beiblau ?ı Y mae'r Taunton Courìer (Medi 4, 1822) yn cofnocÚ marwolaeth sydyn William, ac yn ôl dull newyddiaduron yr oes yn manylu ar y digwyddiad alaethus The following melancholy occurrence took place in Piccadilly on Thursday evening, about half-past five o'clock-Colonel Bowen, fourth son (ail fab ydoedd) of the late George Bowen Esq., of Llwyngwaire, in Pembrokeshire, was about to leave town by coach for Bristol. he ran to overtake it, and when nearly opposite the Albany, he fell down in a fit of apoplexy, and expired '.2 George oedd y trydydd mab. Yn ôl rhestr achau'r teulu (1826), bedyddiwyd ef ar Hydref 28, 1779, eithr ganed ef ym 1762/3. Ym- unodd â'r Llynges fel Is-Gapten, ac yn ei lythyrau at wahanol aelodau o'i deulu (ei dad yn fwyaf arbennig) y mae ganddo gyfeir- iadau diddorol at ymgyrchoedd y Llynges Brydeinig yn erbyn Llynges y Ffrancwyr yn ystod y Rhyfel â Ffrainc. Sonia amdano'i hun a nifer o forwyr yn glanio ar fwrdd y llong Ffrengig Cesar, a honno'n ffrwydro, ac yntau, druan, yn cael ei hyrddio i'r môr, lle bu am ddwy awr cyn gael ei gipio i ddiogelwch, ac yna'n dioddef oddi wrth y dwymyn: I have now to thank you, and my poor tender Mother for the good advice received in yours Cyfeiria hefyd at the gallant behaviour of Captain Bowen in the Montague -sef Essex, ewythr George (ieu.), brawd ei dad, a fu farw Gor- ffennaf 11, 1811, yn 77 oed.3 Mewn llythyr arall (dyddiedig Ebrill 7, 1790), y mae'n sôn am lythyr a dderbyniodd oddi wrth yr Arglwyddes Dinefwr. Yr oedd tynnu gwifrau yn beth cyffredin yn yr oes honno, ac ni allai George ymgadw rhag defnyddio cysyllt- iadau ei deulu i roi hwb i'w uchelgais. Mae'n amlwg iddo ysgrif- ennu at yr Arglwyddes yn ceisio ganddi arfer ei dylanwad gydag Archesgob Efrog a pherswadio ei Ras i roi gair yng nghlustiau'r awdurdodau goruchel a sicrhau gofal un 0 longau'r Llynges iddo. ID. E. Jenkins, The Rev. Thomas Charles of Bala, Vol. iii, 91-92. ^Casgtiad Llwyn-gwair, 16937.