Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL YN y lle cyntaf dylwn ymddiheuro i'n darllenwyr a'n cefnogwyr am fod y rhifyn hwn mor ddiweddar yn ymddangos. Y prif reswm am hynny yw gwasgfa ariannol y Gymdeithas Hanes. Nid ein Cymdeithas ni yw'r unig un sy'n wynebu anawsterau o'r fath yn y dyddiau drudfawr hyn, ac oni bai am addewid am gymorth o un o drysorfeydd Talaith Cymru y mae'n amheus gennyf a fuasem yn mentro cyhoeddi'r rhifyn hwn. Mawr yw ein dyled i ddiolch i'r Dalaith am gynnig dod i'r adwy i'n helpu. Gofid gennym yw adrodd fod Mr. Tudor Profitt wedi gorfod rhoi ei swydd i fyny fel Trysorydd oherwydd afiechyd, ar ôl gwasanaethu'r Gymdeithas yn eíFeithiol iawn am ugain mlynedd. Yr ydym yn dra diolchgar iddo am waith mor drylwyr a chyd- wybodol, a dymunwn iddo adgyfnerthiad iechyd yn fuan iawn. Da gennym allu hysbysu fod y Parch. Eric Edwards wedi addo ymgymryd â'r gwaith, ac apeliwn am gefnogaeth iddo yntau bydd arno angen pob cymorth mewn dyddiau mor argyfyngus. Gwr y gadawodd ei farwolaeth fwlch mawr oedd y diweddar R. J. Thomas, Taliesin. Gẃr enciliedig iawn oedd ef, ac ni fynnai gyhoeddi ei amryw ragoriaethau ar bennau tai. Gellir adnabod ei ddirfawr ysgolheictod o sylwi ar ei waith ar Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, gwaith na chyhoeddwyd ond ei hanner ysywaeth. Yr oeddym yn gobeithio y câi, ar ôl ymneilltuo o'i swydd fel prif olygydd Geiriadur Prifysgol Cymru, hamdden i gyhoeddi ail ran y llyfr hwnnw, ond ysywaeth fe'i cymerwyd oddi wrthym cyn i hynny ddigwydd. Diau y gWyr ein darllenwyr mai mab i'r diweddar Barch. J. E. Thomas oedd ef, ac ar aelwyd y Mans y magwyd ef. Nid rhyfedd felly i ŵr o'i gefndir a'i anianawd ef fynd ati i sefydlu Amgueddfa yn ein hen gapel yn Nhre'r-ddðl. Rhoes o'i amser a'i arian yn ddibrin i'r anturiaeth honno, a bydd hithau'n gofgolofn iddo yntau. Y mae'n nodweddiadol o'i wyleidd-dra fod llawer iawn mwy o bobl yn gwybod am Amgueddfa Tre'r-ddðl nag sy'n gwybod am R. J. Thomas. Ond oni bai am ei weledigaeth ef ni fyddai'r Amgueddfa mewn bod. Yr oedd wedi dechrau cyhoeddi catalog yn BATHAFARN o'r dogfennau Wesleaidd sydd yn yr Amgueddfa,ond daeth y'diwedd cyn iddo gael cyfle fgwpláu'r dasg honno chwaith. Cofiwn â pharch amdano, a diolchwn am yr