Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WESLEAETH YN SIR ABERTEIFI Gany Parch. J. Henry Griffiths, B.A., Llandeilo (Parhâd) YN ôl llythyr Edward Jones i Dr. Coke, dyddiedig Rhagfyr 29, 1806,1 yn niwedd haf y flwyddyn honno yr aethai ef a William Davies ar daith genhadol i waelodion Sir Aberteifi a gogledd Sir Gaerfyrddin a chanfod posibiliadau mawr yno yn enwedig os gellid cyhoeddi'r Efengyl yn yr iaith Gymraeg i'r bobl.' Ymwelsant â Phen-sarn (Tal-y-sarn ?), Llanbedr, Llansawel, Llandeilo, Caerfyrddin, Castellnewydd Emlyn, Aberteifi, Pen-rhiw, capel David Davis, Castellhywel, Llanrhystud, ac yn ôl i Aberystwyth. Ymhen y flwyddyn aethant i'r un cymdogaethau eilwaith a sefydlu achosion y tro hwn yng Nghastellnewydd Emlyn, Aberteifi, Llanwnnen, a Moel yr Eilun (Bod yr Eilun, capel David Davis ym Mydroilyn.)2 Yn ei lythyr i'r Dr. Coke, Hydref 30, 1807, sonia Owen Davies am un o'r tyrfaoedd mwyaf a welsai, ar wahân i Gwennap yng Nghemyw, wedi ymgynnull i oedfaon awyr agored cyfarfod chwarter y gylchdaith a gynhaliwyd yn Llanbedr.3 Yr oedd yr arwyddion yn rhai calonnog iawn, a sonia Dr. Coke yn ei Adroddiad ar waith y Cenadaethau am 1807 fod diwygiad mawr wedi digwydd yn sir Aberteifi.'4 Ar awgrym Edward Jones pasiwyd yng Nghynhadledd 1808 i rannu cylchdaith eang Aberystwyth yn dair cylchdaith, a gwnaed Llanbedr a Llandeilo yn bennau dwy gylchdaith newydd. Gwasanaethid cylchdaith Aberystwyth gan John Williams (I) Evan Parry a Hugh Hughes, a chylchdaith Llanbedr gan William Davies, John Davies a David Jones (2). Gadawodd Hugh Hughes a JohnDavies atgofion pwysig a diddorol i ni am y cyfnod hwn yng ngwaelod sir Aberteifi.6 Yr oedd cylch- daith Llanbedr yn ymestyn o Bontrhydfendigaid i Dyddewi ar y cyntaf. Dywaid John Davíesg Yr oedd y gylchdaith honno yn anferth ei maint a bu felly nes y torrwyd congl fechan ohoni i wneud yr hyn a gynnwys cylchdaith Tŷ Ddewi. Nid oedd eto gymaint ag un capel trwy yr holl gylchdaith cyn yn y flwyddyn hon (1808) yr adeiladwyd y cyntaf sef Llandysul." Ond yr oedd cynifer â phedwar deg chwech o leoedd pregethu o fewn y gylch- daith Llanbedr, Pencarreg, Aberdyar, Cellan, Tan-y-fforest, Glandulais a Chilgwyn ym mhlwyf Llangybi, Llanwnnen, Llan- ybydder, Tal-sam, New Inn, Llandysul, Llanpumsaint, Baile Bedw, Glan-llyn, Abereinon, Cwrtnewydd, Cilgerran, Tŷ-cam, Aberteifi, Brechfa, Rhyd-ar-Berth, Pontarseli, Llanddewi, Tre'r- groes, Castellnewydd, Llandudoch, Tynewydd, Bailiau, Cwm-