Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAI O DDYDDIADURON WESLEAIDD Y GANRIF O'R BLAEN* Gan y Parch Trevor M Thomas, Tredegar Y mae yn dda gennyf am amryw resymau-rhai ohonynt yn ddwys a phersonol-fy mod yn traddodi'r ddarlith hon yn Llanfyllin. Pan oedd y Gymanfa yma o'r blaen yn 1944 yr oeddwn i yma fel ymwelydd answyddogol yr wyf yma heddiw fel ymwelydd swydd- ogol Y mae cyd-ddigwyddiad arall teitl Uawn y ddarlith yw Rhai o Ddyddiaduron Wesleaidd y Ganrif o'r Blaen.' Llywydd y Gymanfa pan oedd hi yma am y waith gyntaf yn 1919 oedd y Parch. T. O. Jones (Tryfan), a olygodd ddau o'r Dyddiaduron y byddafyn sôn amdanynt heddiw, a Llywydd Cymanfa 1944 oedd y diweddar Barch. J. Hopkin Morgan, a fu yn Olygydd y Dyddiadur dros lawer o flynyddoedd. Dylwn egluro ymlaen Haw y byddaf yn ceisio diogelu cymaint ag a allaf o awyrgylch y Dyddiaduron hyn a'u cyfnod drwy ddyfynnu cymaint ag a allaf ohonynt. Golyga hyn ynganu ambell air yn wahanol i'n harfer ni heddiw. Bydd hynny yn amlycach fyth i'r sawl a â i'r drafferth o ddarllen y ddarlith pan gyhoeddir hi, a gweld yr orgraff yn wahanol ambell dro. Wrth ddyfod allan o gapel Mynydd-bach ar hen gylchdaith Llandeilo mi fyddwn i bob amser yn sefyll ennyd wrth fedd gweinidog ieuanc o'r enw John Thomas a gladdwyd yno. Dech- reuodd deithio ym 1862, a bu farw Ionawr 11, 1868, yn 31 mlwydd oed. Heb fod nepell o'r capel saif Llwynhelyg, ei gartref, lIe y bu farw. Ar aelwyd Llwynhelyg y cynhaliwyd oedfaeon y gaeaf dros y blynyddoedd, a bu amryw o'n chwilotwyr hanesyddol yn traethu'r gair yno o bryd i'w gilydd heb wybod cymaint o drysorau cyfundebol a oedd yn y cartref hwnnw. Enwaf (o blith eraill) y diweddar Barchn. E. D. Thomas, J. E. Thomas, ac Evan Isaac, a'm cyfaill, y Parch. W. Islwyn Morgan (y rhaid rhoi'r bai arno ef am mai myfi sy'n traethu yma heddiw). Pan oedd Miss Eleanor Thomas, Llwynhelyg, (nith i John Thomas), yn rhoi i fyny ei chartref fynd i fyw at berthnasau ym 1968, disgynnodd i'm rhan i edrych trwy'r llyfrau a'r papurau diddorol a oedd yno, a'u rhannu i'r sawl a fyddai yn debyg o wneud defnydd ohonynt. Derbyniodd Islwyn Morgan gyfrol rwymedig o ddwy flynedd cyntaf y Gwyliedydd, a nifer mawr o rifynnau heb eu rhwymo, ynghyd ag amryw gyfrolau rhwymedig o'r Eurgrawn yn ogystal. Ond er eu cynnig iddo, *Traddodwyd yr ysgrif hon fel Darlith Hanes yn ystod Cymanfa Llanfyllin, Mai 8, 1973.