Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. HUGH HUGHES (1778-1855) A'I HUNANGOFIANT Gan y Parch. W. Islwyn Morgan, Brynmawr Tuedd Hunangofiant yw i'r "FI FAWR" wthio'i big yn ddiar- wybod i'r hanes, gan droi yr hyn a allai fod yn arlwy flasus yn saig ddiflas. Nid yw hynny'n wir am Hunangofiant y Parch. Hugh Hughes (1856), a olygwyd gan y Parch. Isaac Jenkins, ei fab-yng-nghyfraith, ac a ymddangosodd mewn chwe rhifyn (chwe cheiniog yr un). Y mae'r Parch. Henry Parry (Harri Ddu), Golygydd Yr Eurgrawn Wesleyaidd, mewn adolygiad (1857) yn fawr ei gan- moliaeth wrth gyflwyno'r gyfrol orffenedig "cyfrol hardd, barchus, a diddorol iawn" a'r gyfrol "fywgraffiadol oreu y gwyddom amdani o fewn holl fuch-draeth Wesleyaeth Gymreig." Credwn ar y dechrau mai cyhoeddi'r Hunangofiant yn ei grynswth, yn hytrach na dibynnu ar ryw law anghelfydd i lunio Cofiant eilradd i'w dad-yng-nghyfraith, a wnaeth Jenkins, ond yn ôl y Rhagymadrodd sylweddolwn i Hughes fwriadu i'r Hunangofiant gael ei gyhoeddi fel yr ysgrifennwyd ef. Rhydd Hughes bedwar rheswm am ei ysgrifennu anogaeth ei gyfeillion er mwyn cyflwyno'i gofiannydd â digonedd o ddeunydd fel esiampl i eraill ar ddechrau eu pererindod ysbrydol ac yn olaf, er dangos "amynedd, diodd- efgarwch, gras, ac anfeidrol gariad y Gwaredwr bendigedig tuag at un mor wael ac mor bechadurus" ag ef. Cynnwys yr Huann- gofiant ddwy ar bymtheg o benodau sy'n manylu ar yrfa brysur y gẃr da hwn, ond yr hyn sy'n anhraethol bwysicach na'r hanes am ei orchestion yw ei gronicl o'i bererindod ysbrydol, ac o'i ddarllen yn ystyriol a gweddigar, ni all dyn lai na meddwl am Bererin Bunyan ar ei ymdaith o Ddinas Distryw i'r Ddinas Nefol, neu am y gwr duwiol arall hwnnw, sef Fletcher, offeiriad duwiol Madeley, yn sir Amwythig. i. EI DROEDIGAETH Ganed Hugh Hughes, Medi 14, 1778, ym mhlwyf Llannor, sir Gaernarfon, yn fab i Grifnth a Margaret Hughes, aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd nes i'r Wesleaid ddechrau pregethu yn yr ardal. Prentisiwyd Hugh yn arddwr, ac wedi dilyn ei waith mewn amryw leoedd, symudodd i Lerpwl, and yielding to the influence of irreligious associations, he was led astray, and grew up a hardened sinner," medd Marwgoffa swyddogol y Gynhadledd Wesleaidd, gan ddefnyddio brawddegau ystrydebol y Fethodistiaeth