Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Priodol iawn fyddai i'r Cylchgrawn hwn fynegi ei brofiad mewn iaith ysgrythurol i 'bâm farw, ac euthum yn fyw drachefn!' Ymddiheurwn i'w gyfeillion am eu cadw cyhyd mewn galar amdano, ond gwahoddwn hwy yn awr i gydlawenhau â ni yn ei atgyfodiad. Prinder arian a fu'n gyfrifol am yr oedi yn ei gyhoeddi, ac i haelioni cyfeillion a chefnogwyr y Gymdeithas Hanes y mae'r diolch am ei gwneud yn bosibl inni gyhoeddi'r rhifyn hwn. Y mae'n gyfnod anodd ar bob cylchgrawn Cymraeg yn y dyddiau drudfawr hyn, ac felly apeliwn at holl garedigion y Gymdeithas i'w chefnogi ac i ennill aelodau newydd iddi. Ar ryw wedd y mae'r gyfrol hon yn un arbennig, gan mai un ddarlith sydd ynddi, a honno'n ymhelaethiad ar ddarlith a draddododd y Parch. Edward H. Griffiths i'r Gymdeithas Hanes ar 'Lot Hughes'. Diolchwn iddo am ei lafur mawr, a gellir edrych ar y gyfrol fel teyrnged goffa i ẃr a fu wrthi'n ddyfal yn casglu ac yn cyhoeddi llawer o hanes ein Cyfundeb yng Nghymru. Y mae gennyf dipyn o ddefnyddiau ar gyfer cyfrol arall o BATHAFARN, ac os deil yr arian, hyderaf allu ei chyhoeddi yn weddol fuan. Er pan gyhoeddwyd y gyfrol ddiwethaf o BATHAFARN amddifadwyd y Gymdeithas Hanes o'i thri ysgrifennydd cyllid: Alun C.Roberts, Llandudno, R.H.Williams Llanfair D.C. a J.G.Phillips, Creunant. Bu'r tri yn weithgar dros ben mewn llawer cylch o fewn y Cyfundeb yng Nghymru, ac nid yn lleiaf yn eu cefnogaeth a'u gwasanaeth i'r Gymdeithas Hanes. Cofiwn yn ddiolchgar amdanynt, ac estynnwn ein cydymdeimlad cywir á'u hanwyliaid yn eu trallod a'u hiraeth. Cydymdeimlwn yr un mor ddwys â theulu'r diweddar Elfyn Jenkins, Aberystwyth, aelod o'r Pwyllgor Hanes, a gymerwyd oddi wrthym yn gynnar ym 1986. Diolchwn am haelioni aelodau'r Gymdeithas Hanes a'i gwna yn bosibi i ni ail-ymaflyd yn y gwaith o gyhoeddi Bathafarn.