Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyflwynedig i'r Parchedig Griffith T.Roberts,M.A., B.D.; Cong1-y- meinciau, Bontwnnog, Pwllheli, un o sylfaenwyr, cyfranwyr a chynheiliaid pennaf Cymdeithas Hanes Yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru. 'Syniad gwych o'r eiddo Mr. Griffith T.Roberts ydoedd cael 'Congl Hanes' yn Yr Eurgrawn', medd Mr. A.H. Williams, Rhiwbina, Caerdydd7 Llywydd presennol Y Gymdeithas. 'Ef a freuddwydiodd y breuddwyd neilltuol hwn, a'r Parch. D.Tecwyn Evans (Golygydd Yr Eurgrawn' 1931-1951)a'i sylweddolodd yn ddiymdroi'. CÿFoeddwyd 'Y Gongl Hanes' am saith mlynedd nes i'r Gymdeithas Hanes weld ei ffordd yn glir i gyhoeddi BATHAFARN ei chylchgrawn ei hun, ac o 1946-1971 bu Mr. Roberts yn Is- olygydd 'llafurus a selog', chwedl y Golygydd Mr. A.H.Williams, ac o hynny hyd yn awr, bu'n Olygydd.