Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGAIR Yn Eglwys Sant Paul, Abergele, ar Fedi 10,1977, traddodwyd darlith ar: 'Hanes Lot Hughes a rhai o'i lythyrau' dan nawdd Cymdeithas Hanes Yr Eglwys Fethodistaidd a than lywyddiaeth ei Chadeirydd Y Parch. H.M. Pennant Lewis. Ymestyniad a chyflenwad o'r ddarlith honno yw'r llyfr hwn. Diolchaf i'r Gymdeithas am y fraint o draddodi'r ddarlith ac am ei pharodrwydd i'w chyhoeddi a ninnau ar drothwy dathlu deucanmlwyddiant geni'r 'Hybarch Lot Hughes', fel y'i gelwid yn gyffredin yn y Cyfundeb ym mlynyddoedd olaf ei fywyd hir a phrysur. Dyma arwydd o'n dyled iddo fel un o arloeswyr Wesleaeth Gymraeg ac un o'n haneswyr cynharaf. Mewn llawer iawn o'r 'Tremau' ar hanes yr achos Wesleaidd yn y Gogledd a'r De gallai Lot Hughes ddweud: 'yr oeddwn i yno'. A chydnebydd yr haneswyr academaidd ac eraill a ddaeth ar ei 81 i gyd eu dyled iddo. Carwn ddiolch i'r diweddar Barch. John Hughes a'i fab y Dr. Glyn Tegai Hughes, Gregynog, am ymddiried i mi y casgliad gwerthfawr a diddorol 0 lythyrau Lot Hughes. Diolchaf hefyd i'r Parch. Griffith Thomas Roberts, Botwnnog, Golygydd 'Bathafarn' am ei waith manwl ac ysgolheigaidd yn darllen y copi ac yn cynnig nifer o gywiriadau a lliaws o welliantau yng nghyflwyniad y defnyddiau a gasglwyd. Gtfyr Y Gymdeithas Hanes a'r genedl am ein dyled anfesurol iddo fel hanesydd, diwinydd a llenor. Carwn ddiolch hefyd i gyfeillion a'm cynorthwyodd i gasglu'r defnyddiau: Y Parchedigion. Gwilym R.Tilsley, E. Wyn Williams, Dennis Griffiths a'r diweddar Eric Jones, Abergele, Llanrwst a Chwm Penmachno, perthynas i Dafydd Jones y gwehydd y sonnir amdano ar ddiwedd Pennod 5. Diolch hefyd i Swyddogion Y Gymdeithas Hanes. A diolch i'r argraffydd hynaws Hywel Evans, Dinbych, am ei waith da, er gwaethaf y copi blêr a gafodd ef. Gallesid bod wedi casglu rhagor am y gweinidog a'r hanesydd hynod hwn, ac wedi gwella'r cyflwyniad, ond er gwaethaf hyn i gyd, gallaf ddychmygu'r hen Lot Hughes yn dweud 'Wel, Wel', yn 81 ei arfer, mewn gwerthfawrogiad o'r ymdrech hon i werthfawroei ei lafur ef. Tachwedd 1985 E.H.Griffiths, Y Rhyl