Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Ar ôl hir oedi dyma o'r diwedd rifyn arall o Bathafarn yn gweld golau dydd. Y mae'r ;di wedi rhoi cyfle i lawer o gyfnewidiadau ddigwydd. Yn un peth, daeth y Gymdeithas Hanes a Chymdeithas Cyfeillion Amgueddfa Tre'r- lôl i gysylltiad newydd â'i gilydd, a diau y caf ddymuno bendith ar y briodas. Yn sgil ynny cawsom swyddogion newydd, a phriodol yw diolch yn gywir iawn i'r n-swyddogion. Bu'r Parchn. Iwan G.P. Lewis yn ysgrifennydd, ac Eric Edwards yn rysorydd, i'r Gymdeithas Hanes dros flynyddoedd digon anodd a diolchwn yn iiffuant iddynt am eu gwasanaeth ffyddlon. Dymunwn bob bendith a Ilwyddiant i'r arch. T. Evans Williams a Miss J.E. Nesta Evans fel ysgrifennydd a thrysorydd y vyIIgor newydd. Dan yr hen drefn yr oedd gan y Gymdeithas Hanes ei chynrychiolwyr ym mhob un r tair talaith ond cymerwyd y tri oddi wrthym gan angau cyn 1977, ac ni phenodwyd ìb i gymryd eu lle. Yn y cyfamser Ilyncwyd y tair talaith yn un Dalaith Cymru, ond dylid ystyried a ellir m yr amodau newydd lunio trefn ac ethol cynrychiolwyr rhanbarthol a all hyrwyddo >vydd y mudiad hanes fel y gwneid gynt. Un arall o gyfeillion y Gymdeithas Hanes a (inerwyd oddi wrthym oedd Tudor Proffitt, a fu am rai blynyddoedd yn drysorydd y ymdeithas, a mawr yw'r golled ar ei ôl mewn llawer cylch.