Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WILLIAM AUBREY, LLANNERCH-Y-MEDD (1815-1887)* Gan y Parch. John Alun Roberts, Abergele. *Traddodwyd fel darlith y Gymdeithas Hanes ym Methel, Prestatyn, nos Fawrth, 26 Ebrill, 1977, a Mr. Edgar Rees, LL.B., Llanelwy, yn Gadeirydd. HANES WILLIAM AUBREY A'I OES, yn nghyda RHAI O'I BREGETHAU, wedi ei hysgrifenu ganddo ef ei hun, gyda Rhagdraeth gan Y PARCH. JOHN EVANS (Eglwys Bach). Rhyl: Argraffwyd gan Amos Brothers, Swyddfa'r "Gwyliedydd", (1882). Dyna deitl y llyfr sydd o'm blaen yn awr. Hunan-gofiant o 134 tudalen ydyw a'r dyddiadau ynddo yn brin iawn. Rhoddir 104 i sôn am y blynyddoedd 1815-42, ac felly, prin iawn yw'r defnydd ar gyfer y cyfnod o 1842 i 1887. Mae'n amlwg fod William Aubrey yn cael ei gyfrif yn un o'r pregethwyr cynorthwyol mwyaf arbennig a phoblogaidd a fu'n perthyn inni fel Wesleaid. Yn y Rhagdraeth i*w hunan-gofiant y mae yn un o'r saith mwyaf amlwg gan John Evans, yn un o wyth gan Hugh Jones, (Han.Wes.Gym.,t. 1334), yn un o bump gan A. H.Williams, (Wel.Wes.Meth.,294) ac yn un o un ar ddeg gan D. Tecwyn Evans, (Bathafarn, 9.t.62). Gelwid ef ar lafar yn "Aubrey bach", a hynny am ddau reswm amlwg iawn. Pum troedfedd a thair modfedd ydoedd o daldra, ac yr oeddyn cydoesi am gyfnod â Thomas Aubrey, a oedd yn haeddu'r teitl, "Aubrey Fawr". Ganed William Aubrey yn Llannerch-y-medd ar Ionawr 28, 1815, yn fab William ac Elizabeth (nee Thomas) Aubrey. Crydd oedd y tad, ac yr oedd ef a'i briod yn enedigol o ardal Amlwch. Ymfalchiai William Aubrey iddo gael ei fedyddio gan John Elias. Digwyddodd hyn ar Chwefror 5,1815. Bedyddiwyd yr un amser, Jane, merch John ac Elizabeth (nee Williams) Griffith, Ffridd, Llantrisaint. Ganed Jane, ar Ionawr 31,1815. Labrwr oedd ei thad o blwyf Llantrisaint a'r fam o blwyf Coedana. Credai William Aubrey pe byddai John Elias yn deall y bore hwnnw, yng nghapel y Methodistiaid yn Llannerch-y-medd, ei fod yn bedyddio bachgen bach a fyddai ryw ddiwrnod yn bregethwr Wesla, ac yn bedyddio geneth fach a ddeuai ymhen blynyddoedd yn wraig i weinidog gyda'r Annibynwyr, "mi fasa wedi ein dropio y munud hwnnw". (Cafwyd yr wybodaeth am y bedyddiadau o'r "Anglesey Non-Conformist Register of Baptisms 1803-37", yn Swyddfa'r Archifydd, Llangefni). Nid bedydd gan John Elias oedd ei unig ymffrost, ond hefyd y ffaith ei eni yn Llannerch-y-medd, tref farchnad bwysig am flynyddoedd lawer. Daeth i bwysigrwydd wedi machlud gogoniant Aberffro, a mwy pan oedd bri ar waith copr Mynydd Parys. Tristwch mawr iddo oedd sylweddoli nad oedd fawr obaith i Wesleaeth gael gafael ar yr hen dref. Yr oedd gan John Wesley amryw gyfeilion yn yr ardaloedd cyfagos, Wiliam Pritchard, Clwchdernog, oedd yn byw ar y pryd naill ai ym Mhlas Penmynydd neu Bodlew; Thomas Thomas, (Tyddyn Sbardun), Howell Thomas, (Trefollwyn Goed), William Jones, (Trefollwyn) ac amryw eraill. Nid oedd fawr o groeso i John Wesley pan aeth i bregethu i Lannerch-y-medd; daeth y "sons of Belial" i darfu arno. Efallai ei fod yn anffortunus o'i ddiwrnod, Ebrill 1, 1750. (Journals ii 172) ond mentrodd i ymyl y dref ychydig ddyddiau wedyn, Ebrill 6. "I preached near Llannerch-y- medd at noon", (ii 173) Dywedir fod hen draddodiad ym Môn na chodid capel Wesla yn