Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TIPYN O HANES EGLWYS SEION, HARLECH Anerchiad a draddodwyd gan y Parch Emlyn Williams i ddathlu canmlwyddiant y capel, 18 Tachwedd 1973 "Canys myfi a'i hadwaen ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ôl, gadw ohonynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn" (Gen. xviii) Er mai canmlwydd y capel a ddethlir heddiw, rhaid cofio fod pob peth tyfadwy yn dibynnu ar ei wreiddiau. Ar un o'i deithiau, daeth y Parch. Edward Jones Bathafarn, sylfaenydd Wesleaeth Gymraeg, gyda William Parry, Tre-garth, i Harlech. Ar eu ffordd i Aberystwyth yr oeddynt, ac am gael llety iddynt eu hunain a'u ceffylau. Gellir gofyn pam nad aethant drwy Drawsfynydd, a'r ateb yw i Edward Jones addo pregethu yn Nyffryn Ardudwy. Yn y Blue Lion a gedwid gan Lewis Jones yr arosasant. Aeth yn ymddiddan rhyngddo ef a'r cenhadon ynghylch eu gwaith, a'r diwedd fu iddo gael ganddynt addo pregethu ar eu ffordd yn ôl os byddai amser yn caniatàu, ac os câi ddefnyddio parlwr mawr y Blue Lion at y gwaith. Felly y bu, a chafwyd oedfa dda. Ar y daith hon yr holodd Edward Jones am le i bregethu rywle yng nghyffiniau'r Traeth Bach. Yr oedd dyn o'r enw Robert Isaac yn yr oedfa yn Harlech, a chynigiodd ef dy o'r enw Ty'n-y-groes iddo. Aeth dwy ferch ifanc ar frys i gyhoeddi'r oedfa, unodd Edmund Evans (a oedd yn dair ar ddeg oed y pryd hwnnw) â hwy, a dyna ddechrau Wesleaeth yn y cylch, plannwyd coed y diwrnod hwnnw a ddaeth yn goedwig dalgryf, ffrwythlon a changhennog hyd heddiw. Ymhen y mis ar ôl oedfa gyntaf Harlech, daeth y Parch. Griffith Hughe, yntau ar ei daith, gan aros, a phregethu yn y Blue Lion. Y Parch. John Maurice oedd y nesaf, ac anogodd ef y cyfeillion i ffurfio seiat. Sefydlwyd yno Eglwys, a phenodwyd Lewis Jones, y Blue Lion, yn flaenor. Yn y gwesty y cynhaliwyd y gwasanaethau drwy'r gaeaf hwnnw, yna fe ardrethwyd Ile o'r enw Ty Eiddew yn fan cyfarfod, ac yno y bu'r Eglwys am ddeng mlynedd. Yn y cyfamser adeiladwyd capel ar dir wedi ei brynu gan Syr T. Mostyn, a'r ymddiriedolwyr oedd Griffith Jones, Cricieth; J. Davies, Caecethin; J.Richards, Llanfairisa, a Richard Jones, Dolgellau. Costiodd, meddir, £ 300. Araf iawn y buont yn talu am y capel a chawn fod £ 250 o ddyled yn aros ym 1866. Pam, tybed? Cyn pen y flwyddyn digwyddodd brwydr Waterloo, a ddilynwyd gan newyn creulon. Aeth y tri-degau llwglyd yn ddihareb. Blynyddoedd caled heb os. Buasai J. Davies, Cacethin, farw ym 1828. Dyn ardderchog i'r Achos yn Harlech fu ef. Magodd blant hynod: un mab, a aeth i America, a chwe merch: Margaret oedd y ferch hynaf. Dychwelwyd hi at Grist yn Nhy Eiddew. Priododd W.Williams, Llanfeirian, Môn. Buont yn gaffaeliad i'r Achos yn Elim, Bodorgan, a thrachefn ym Mhenconisiog, wedi iddynt symud i fyw i Fodlawen. Jane oedd yr ail ferch. Merch iddi hi oedd Miss Jones, Y Clogwyn a gofir gan y cyfeillion hynaf. Merch arall iddi oedd mam y diweddar Wilfred Jones, y canwr enwog (3) Susanah. Priododd hi Mr. Williams, Tyddyn-hwrdd, hi o bosib yn nain i'r gwr bywiog, ffyddlon a cherddgar hwnnw, a gofir gan lawer o Weinidogion gydag anwyldeb mawr, E.D. Williams, Tyddyn-hwrdd, Aberffro. (4)