Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifennydd, "Nid oes dim yn ormod ganddi ei wneud dros y capel" dyna eiriau un o'i hedmygwyr mwyaf. Y ddau yna, sy'n werth eu pwysau mewn aur i Seion. Onid yw'n rhyfedd fel mae rhywrai da fel yna yn dod pan fo'u hangen. Mae'n eithaf posibl bod ysgrifennydd hyn o eiriau wedi gadael allan enwau rhai o'r goreuon. Erfynnir maddeuant y cyfryw rai, ond pa wahaniaeth, os nad yw eu henwau i lawr yma, mae "eu henwau i lawr yn y Dwyfol Lyfr mawr" chwedl Elwyn Jones yn ei gân wych, a dyna sy'n bwysiggyda'r holl enwau sydd wedi cychwyn, cynnal, a chadw'r Achos Mawr yn Seion ar hyd y blynyddoedd. Bu Ilanw droeon, a bu trai. Bu cyfnodau pan ddawnsiai'r llong yn sglein yr haul ar y tonnau, a bu amser pan oedd rheiny'n drochiog, amserau pryderus ac anodd. Ac efallai mai heddiw yw'r cyfnod anoddaf, y môr yn dawel heb awel i'r hwyliau. Dysgodd y rhai a enwyd yma weddïo'r cwpled "O nifer y gweithwyr gad im 'fod 'Dwy'n gofyn na chwennych dim mwy". Bu'r hen griw solet, selog, caled eu byd, yn gofalu ddoe am gysgod i ni heddiw. Onid ein rhesymol wasanaeth felly, yw gofalu y bydd cysgod fory. Mi fydd stormydd fory, a bydd angen cysgod fory. Mae'r saint a fu mewn llafur dwys Yn gortTwys oll mewn hedd. "Fe welir Seion (eto) fel y wawr Er gwaeled yw ei gwedd". Cadwodd y Tadau yr arfau yn loeyw. Cofiwn ninnau mai rhwd yw angau erfyn, nid sglein. Os yr olaf sydd wir,yna fe welir ysgrif eto, ar hanes Seion Harlech o 1973- 2073.