Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceidwad y Carchar", oedd testun ei ail bregeth, yn Soar, Maenan; y trydydd tro, pregethai bnawn a nos mewn capel bychan, nad yw yn ei enwi, ac ar derfyn oedfa'r nos, "daeth dau i'r seiat". Dyma fu ei hanes am ddeugain mlynedd; prin y byddai oedfa heb ddychweledigion. Credai'r Parch. John Humphreys (John Evans, Eglwys Bach, t.109) fod miloedd yn y nefoedd, y bu John Evans yn gyfrwng troi eu hwyneb tuag yno, ac yn sicr fod Ilawer yn barod i dystio i'r un peth, wedi iddynt gyrraedd y gogoniant. Yn bedair ar bymtheg oed, ac yntau wedi cynnal amryw gyfarfodydd pregethu, derbyniwyd ef i'r weinidogaeth. Yng Nghyfarfod Taleithiol Llanfyllin Mehefin 21, 1860, yr oedd tri ymgeisydd, ond dau a dderbyniwyd, John Hugh Evans (Cynfaen) a John Evans. Yr oedd yn awyddus iawn i gael ei dderbyn i un o sefydliadau addysgol y cyfundeb, ond fe'i siomwyd yn fawr; mynodd Methuselah Thomas ei gael i Dregele, Cylchdaith Amlwch, ac yno y bu am dair blynedd, y flwyddyn gyntaf yn was cylchdaith, a dwy yn weinidog ar brawf. Rhai wythnosau cyn iddo ddod i Dregele, yr oedd C.H.Spurgeon, yn pregethu i'r miloedd yng Nghaergybi, ond Cymry Môn heb ei ddeall. Yr oedd John Evans yn yr oedfa, eneiniedig iawn, ac o hynny ymlaen, gelwid ef "Spurgeon Bach"; y fath baratoad ar gyfer ei weinidogaeth ym Môn! Tystiai John Williams, Brynsiencyn, fod mwy yn dod i'w wrando, ar noson waith, nag ar bregethwyr y Corff a oedd yn dod i bregethu i'r sir, ac yntau (J.W.) yn blentyn yn mynd i'r oedfa yn Ilaw ei dad, (Eurgrawn Medi 1940, t. 291) Gosodwyd patrwm o fywyd oedd yn fuddiol a da i weinidog, yn Nhregele, a'i ddilyn ar hyd ei oes, sychedu am wybodaeth, a phobl yn yr ardal yn cynorthwyo llawer arno, rhai fel Edward Sellers, Amlwch, a Mrs. Mary Elias, merch yng nghyfraith John Elias. Gadael Môn am yr Wyddgrug, yn siomedig na chafodd fynd i Fagillt, ym 1863, er mwyn cael cyfle i astudio yn Llyfrgell Richard Gratton, yng Nghaer. Daeth i'r amlwg fel darlithydd, wedi dod i'r gylchdaith, ond mae'n amlwg iddo or-weithio, a mynd i wendid mawr, ond yr oedd wedi gwella digon i bregethu ddwywaith yng Nghyfarfod Taleithiol Caernarfon, ym 1864. Yr oedd David Lloyd Jones, Llandinam yn yr oedfa olaf, a dyma ei dystiolaeth, "Hon oedd un o'r oedfaon mwyaf grymus a glywais erioed". "Treulio" y blynyddoedd 1866-69 yn Lerpwl, ac yn ôl ei dystiolaeth ei hun, "Tair blynedd brysuraf fy oes hyd yma". Daeth yn ail-weinidog ar gylchdaith Tre-garth 1869-72, cymdeithas gan mwyaf o chwarelwyr, diwylliedig, dadleugar, ond gwerthfawrogol, a braint iddynt oedd cael gweinidog ifanc a oedd yn un o bregethwyr mawr y genedl. Gweithiodd yn ddiarbed i gael capel newydd, Siloam, a thiy gweinidog, Bryn Myfyr, a chlirio'r holl ddyled mewn byr amser. Ym Methesda y cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, cyfieithiad o Adolygiad Dr. Tappan ar "Ymchwiliad Roger Edwards i Ryddid yr Ewyllys", addewid oedd hyn o'r cynhaeaf mawwr oedd i ddod: John Wesley ei fywyd a'i Lafur, pedair cyfrol pregethau, Pulpud City Road, Darlith Daleithiol, Methiant Gwyddoniaeth Ddiweddar i gyfrif am ddechreuad pethau. Ym 1898, blwyddyn wedi ei farw y cyhoeddwyd Pregethau a darlithiau John Evans. Ei waith ef oedd y rhan fwyaf o'r Fwyell" (1894-97), cylchgrawn Cenhadaeth Pontypridd. Ar derfyn ei dymor ym Methesda, dychwelodd i Lerpwl, ym 1872 a bu yno chwe blynedd. Ar gychwyn ei dymor yno, ymbriododd â Charlotte Pritchard, merch y cartref roddodd lety iddo y tymor cyntaf bu yn Lerpwl. Ganed iddynt dri phlentyn, dwy ferch ac un mab; bu'r mab bach farw ym 1878, effeithiodd hyn yn fawr ar y fam, a bu hithau farw ym 1884, a'r teulu wedi treulio chwe blynedd yn Llundain gan iddynt symud yno Awst 1878, ac yno y bu John Evans am ddeuddeg mlynedd, gan weithio yn ddiarbed,