Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODYN GOLYGYDDOL Pleser mawr yw cyflwyno cyfrol arall o gylchgrawn hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru i aelodau a charedigion yr enwad, a hynny yn y flwyddyn y dethlir dau gant o flynyddoedd o Wesleaeth Gymraeg. Rhaid yn y lIe cyntaf ymddiheuro fod cymaint o amser wedi pasio ers i'r gyfrol ddiwethaf ddod o'r wasg; i raddau helaeth prinder deunydd sydd yn gyfrifol am yr oedi. Rhaid felly datgan diolch diffuant iawn i'r ysgolheigion sydd wedi anfon deunydd i mewn, a'r caredigion eraill sydd wedi tynnu sylw'r golygydd at ddeunydd y gellid ei addasu yn gyfraniad priodol ar gyfer y cylchgrawn, er iddo ymddangos ar ffurf arall llai parhaol eisoes mewn man arall. Mae mynegai y deg cyfrol ar hugain blaenorol o'r cylchgrawn, a baratowyd gan ysgrifennydd diwyd ac ymroddgar y Pwyllgor Hanes, Mr Wyn Lloyd, yn offeryn tra defnyddiol i'r sawl sydd am ddod o hyd i ddeunydd am hanes yr enwad yn nhudalennau'r cylchgrawn a thybed hefyd nad oes gobaith y dangosir ambell i fwlch yn ei gynnwys hyd yn hyn, a fydd yn ysgogi rhywrai ymysg haneswyr Methodistiaeth i fynd ati i lunio cyfraniad at yr ail gyfrol ar ddeg ar hugain! Heb gyfraniadau dilys, bydd hi'n ddeng mlynedd arall cyn y gwelir cyfrol arall yn y gyfres, ac felly dyma apêl daer ar i'n haneswyr ystyried dod i'r adwy. Anfoner pob gohebiaeth a chyfra- niadau at y golygydd, Yr Hendre, Dolydd, Caernarfon, LL54 7EF.