Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAN MLWYDDIANT EHEDYDD IAL (WILLIAM JONES) 1815-1899 (Darlith a draddodwyd gerbron Henaduriaeth Môn, Aberffraw, 26 Ionawr 1999) 'Lluniwyd emynau gan amryw o feirdd y gynghanedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ambell un yn unig sydd â digon o eneiniad ynddo i fod wedi byw ar ôl ei awdur' dyna ddywaid y Dr Thomas Parry wrth drafod emynwyr y ganrif ddiwethaf. Dyma ni, yn cofio un o emynwyr y ganrif honno a fu farw ar y dydd olaf o Chwefror 1899 gan mlynedd yn ôl Ehedydd Iâl. Y mae un pennill o'i eiddo yn dal yn fyw iawn ac mor boblogaidd ac adnabyddus ac y gall emyn fod yn y Gymru gyfoes. Pa ddeunydd a roed ynddo, tybed? Yn ôl Thomas Parry eneiniad' yw'r deunydd. Credai'r Parch Ben Davies, Pant Teg nad oes dim a saif yn ffordd ambell emyn rhag ennill anfarwoldeb. Enillodd pennill gwreiddiol Ehedydd Iâl ei le yng nghalon y genedl Gymreig a daeth yntau yr amlycaf o feirdd 'yr un emyn'. Byddai'r Parch H.D. Hughes, Caergybi yn arfer sôn am Morswyn (1850-93) o'r dref honno fel emynydd 'yr un emyn' Craig yr Oesoedd. Gellir gosod emynwyr enwog eraill yn yr un dosbarth: Robert ap Gwilym Ddu (1767-1850) awdur Mae'r gwaed a redodd; Edward Jones, Maes y Plwm (1761-1836) Mae'n llond y nefoedd; ac yn siwr Ar fôr tymhestlog Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855). Ond mae gan yr emynwyr hyn emynau eraill sy'n hynod o adnabyddus a phoblogaidd. Nid dyma'r unig emyn o eiddo Ehedydd Iâl ychwaith yn wir cyfansoddodd sawl emyn arall gafael- gar a da. (Gwêl Blodau Iâl Gol. John Felix) ond nid ymddangosodd yr un ohonynt yn llyfrau emynau y gwahanol enwadau, ac eithrio Llyfr Emynau'r Wesleaid ddechrau'r ganrif hon. Ai damwain ynteu tyfiant naturiol a gyfrif am yr anfarwoldeb a dderbyniodd yr emyn hwn? Er nad yw 'nghnawd ond gwellt, A'm hesgym ddim ond clai, Mi ganafyn y mellt, Maddeuodd Duw fy mai. Mentra Bobi Jones awgrymu mai dyma'r unig emyn mawr a gynhyrchwyd gan y Methodistiaid Wesleaidd yng Nghymru, ac i roi mwy o halen yn y briw fe'i geilw'n emyn 'Calfinaidd'. Dylid cofio mai ychydig iawn o emynwyr a berthynai i enwad y Wesleaid yng Nghymru. Enw tri yn unig geir gan WA. Griffiths yn Hanes Emynwyr Cymru (1891): Ehedydd Iâl, John Bryan (1770-1856) a Clwydfardd (1800-94). Ond beth bynnag ddywaid neb am yr emyn hwn, mae un peth yn wir amdano y mae wedi byw am gan mlynedd ar ôl yr awdur. Wrth chwilio am ateb i'r cwestiwn beth sydd yn y pedair llinell hyn o emyn a'i cadwodd mor fyw ac a'i gwnaeth mor boblogaidd? fe'n harweinir i sylwi ar ryw nodweddion yn hanes yr awdur, Ehedydd Iâl. Ei Gefndir Fe anwyd William Jones ar 15 Awst 1815 mewn bwthyn bach o'r enw Cefn Deulin, Derwen, Sir Ddinbych. William oedd y pumed plentyn o naw o blant William a Catherine Jones.