Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCHEDIG ROWLAND HUGHES 1811-1861 Ganwyd y Parchedig Rowland Hughes yn y Bala, yn Sir Feirionydd, ar y 6ed o Fawrth 1811. Enwau ei rieni oedd William ac Anne Hughes. Symudodd y teulu i Ddolgellau pan oedd Rowland yn bedair mlwydd oed. Ac yno, yn hen dref Dolgellau, y digwyddodd rai o'r pethau mwyaf pwysig yn holl hanes ei fywyd i gyd. Yno y derbyniodd ei addysg; yno y cychwynodd ei bererindod ysbrydol; yno y dechreuodd bregethu. Ychydig iawn o wybodaeth sydd am ei flynyddoedd cynnar. Gwyddom am ei fagwraeth yn y capel "Methadis" lIe oedd ei rieni yn addoli. Pan oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed aeth yn brentis gyda John Jones teiliwr. Blaenor gyda'r Wesleaid oedd John Jones, ac mae'n hawdd credu fod ysbryd selog ac ymroddgar y meistr wedi effeithio ar ei was Rowland Hughes. Tystiai Rowland Hughes yn fynych fod ei fam bersonol parthed athrawiaethau y Beibl wedi newid yn ddirfawr yn y cyfnod neilltuol hwn: daeth y gyfundrefn Galfinaidd i ymddangos iddo yn hynod o wrthwynebus i ddysgeidiaeth yr ysgrythyrau, ac yn groes i reswm hefyd; a bod Arminiaeth efengylaidd canlynwyr John Wesley wedi ennill cydsyniad ei feddwl yn lân. Samuel Davies oedd y gweinidog Wesle yn Nolgellau ar y pryd. Yr oedd gweinidogaeth Samuel Davies yn un hynod o athrawiaethol. Apeliodd hyn yn fawr at Rowland Hughes a daeth i wrando yn gyson ar weinidogaeth y Wesleaid. Nos Sul Mawrth lleg 1827 yr oedd Edmund Evans yn pregethu yn Nolgellau ar y testun "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn; canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhant" (Eseia 3:10). Mewn canlyniad i'r gwasanaeth penderfynodd Rowland Hughes i roddi ei hun yn llwyr i'r Arglwydd. Daeth y Parch. Lot Hughes i weinidogaethu i Ddolgellau, a bu o gymorth mawr i Rowland Hughes gan roi iddo bob cefnogaeth, yn arbennig mewn cyfarfodydd gweddi. Dywed y Parch. Lot Hughes amdano yr oedd Rowland Hughes yn weddiwr mawr, ac yn uwch na'r un arall ag oedd yno, fel yr aeth y sî yn fuan allan, "y gwnai Rowland Hughes bregethwr." A phan gafodd efe yr anogaeth i ddechrau pregethu, efe a aeth rhagddo yn ei rym. Soniai Rowland Hughes yn fynych am ofal caredig Mrs. Lot Hughes yn yr adeg foreuol hon. Dechreuodd Rowland Hughes ar orchwyl mawr ei oes, sef pregethu efengyl Crist, rywbryd tua dechrau'r flwyddyn 1829, ychydig cyn cyrraedd ei ddeunaw oed. Mae amser a lle ei bregeth gyntaf yn anhysbys i ni. Traddododd ei bregeth brawf yn nghapel Pen Nebo, hanner y ffordd rhwng Dolgellau a Bermo, ym mis Mai 1829. Cynhelid Cyfarfod Chwarterol Pregethwyr y Gylchdaith yn Mhen Nebo. Yr oedd y Parch. W Evans, Arolygwr y Gylchdaith, y Parch. Thomas Aubrey ei gydlafurwr, gyda nifer fawr o'r pregethwyr cynorthwyol, yn bresennol yn y cyfarfod. Holwyd Rowland Hughes ynghylch ei brofiad crefyddol, ei alwad i bregethu, ac am erthyglau ei ffydd; a gwrandawyd arno yn pregethu. Yna, ar ôl pob ymchwil, derbyniwyd ef i gyflawn undeb a'r cyfarfod, a rhestrwyd ei enw ar y plan fel pregethwr rheolaidd Wesleaidd.