Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TREM AR HANES YR EGLWYS WESLEAIDD GYMRAEG YN ABERYSTWYTH 1807-1992 YDechreuadau Ffrwyth gweinidogaeth yr Ysbryd Glân drwy'r cenhadon Wesleaidd oedd cychwyn yr Achos Wesleaidd yn y dref. Daeth Edward Jones, Bathafarn, Rhuthun, John Bryan a anwyd yn Llanfyllin, William Parry, Llandygái ger Bangor, ac Owen Davies, yn enedigol o Wrecsam, ar daith genhadol i Aberystwyth. Bu hynny ym mis Tachwedd 1802. Cyflwynwyd yr Efengyl ganddynt gyda sêl, a chawsant ymateb da y diwrnod cyntaf. Anfonwyd bore drannoeth yn gynnar Y Cyhoeddwr Tref (town cryer) i hysbysu'r trigolion fod oedfa am 10 o'r gloch ym muarth Tafarndy'r Talbot, ac oedfaon eraill yn ystod y dydd a chroeso i bawb a ddêl. Pwyslais llywodraethol y cenhadon hyn oedd: Bod yr Efengyl i bawb; Bod Iesu Grist wedi marw dros bawb; a Bod gobaith i bawb drwy gredu a byw yr Efengyl. Da y dywedodd un David Evans, Aberystwyth ym 1830 bydd gan lawer o drigolion Aberystwyth a'i chyffiniau achos i foliannu Tad y Tmgareddau. am y dydd cyntaf y clywsant y Wesleyaid yn cyhoeddi Crist yn Geidwad digonol i bob dyn. Amlwg yw yn ô1 llawer tystiolaeth, i'r had a heuwyd gael tir da, a daeth y tystion Wesleaidd yn ôl wedyn droeon i drin y tir a meithrin yr had. Yr oedd yr Eglwys Gristnogol, wrth gwrs, wedi gwreiddio yn yr ardal ganrifoedd cyn hyn. Digon o dystiolaeth i hynny yw hen Eglwys enwog Llanbadarn Fawr, rhyw filltir a hanner o ganol y dref. Mae'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a phellach na hynny. Ceir hanes am Gymdeithas o Grynwyr a gyfarfyddai yma ym 1688. Yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd eu Capel cyntaf yn Aberystwyth y Tabernacl ym 1785 a chapel gan y Bedyddwyr ym 1797. Er aeth dros ugain mlynedd arall heibio cyn i'r Annibynwyr ymsefydlu yn y dref, gwelir fod Ymneilltuaeth wedi gwreiddio'n ddwfn yma. YCapelWeslecyntaf Bu'r gymdeithas Wesleaidd yn ystod pum mlynedd cyntaf ei hanes yn ymgynnull mewn amryw leoedd; mewn tai, mewn tafarndai, mewn ystordy ac mewn gweithdy cychod pysgota. Er pob symud cynyddu a wnai'r brwdfrydedd, a chryfhau a wnai'r gymdeithas. Adeiladwyd ac agorwyd y Capel cyntaf yn y flwyddyn 1807, yn Stryd y Frenhines. Yr oedd nifer yr aelodau erbyn hynny yn 140. Cryfhaodd yr eglwys eto gyda'r blynyddoedd. Ym 1831 ffurfiwyd Cylchdaith Aberystwyth. Ceir cofnod yn Eurgrawn 1835 fod y capel â chynnydd o 54 yn nifer yr aelodau. Un rheswm am hynny oedd nifer o Saeson a ddaeth i'r mwynfeydd a agorwyd yng nghanol- barth Ceredigion, ac yn Fethodistiaid Wesleaidd. Erbyn 1839 yr oedd rhif yr aelodau yn 190. Yn ystod tridegau a phedwardegau'r ganrif daeth y 'Wesle Bach' i Aberystwyth i gynhyrfu peth ar y dyfroedd. Pobl selog oeddynt hwy. Credent eu bod yn Wesle Mawr, a'u bod yn haeddu mwy o awdurdod i'w dwylo eu hunain, ac y dylai'r arweinwyr cyfundebol fod â chryn dipyn llai o awdurdod. Bu hyn yn achlysur peth helyntion, ond mynd rhagddi a wnaeth yr eglwys mewn nerth.