Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TREM AR HANES YR ACHOS YN SOAR, ABERGWYNGREGYN Yr ydym yn byw mewn oes o drai ysbrydol, ac o ganlyniad mae llawer o addoldai'n cau. Er ein bod yn byw mewn oes mor wahanol i'r oesoedd a fu pan oedd addoldai yn dynfa boblogaidd yn ein gwlad ni ddylid anghofio ar unrhyw gyfrif iddynt fod yn ganolfannau gwerthfawr ar gyfer 'profi pethau nad adnabu'r byd' i lawer a ddeuai iddynt gynt, a hynny am gyfnod maith. Y mae hyn yn wir am yr eglwys a fu'n ymgynnull yn Soar, Abergwyngregyn, a hynny am gyfnod dros ganrif a hanner o amser. Aeth blynyddoedd heibio ers pan gynhaliwyd yr oedfa olaf ynddo, yn 1982, ond ni charwn anghofio gwasanaeth a sel y ffyddloniaid gynt. Fe saif pentref bychan Abergwyngregyn o fewn golwg y briffordd rhyw bedair milltir neu fwy o Fangor i gyfeiriad Llanfairfechan, Penmaenmawr a Chonwy. Mae'n hyfryd sylwi fod hen enw prydferth y pentref wedi ei adfer yn llawn ers canol yr wythdegau. Pentref ydyw efo cysylltiadau clos â'r Tywysog Llywelyn Fawr a'i dywysoges Siwan, ac mae enwau lleoedd yn y pentref yn cyfleu olion hen hanes: Pen-y-Mwd (Mwd = Moat Saesneg), a Prince's Cottages, i enwi ond dau. Ond nid awn ni mor bell i'r gorffennol â hynny. Mwy na digon yw ceisio olrhain ychydig bach o hanes yr achos am ganrif a hanner yn Soar, Aber. Yr oedd yn un o'r achosion Wesleaidd Cymraeg cyntaf a godwyd. Mae'r capel cyntaf yn dyddio'n ôl i'r flwyddyn 1827 yr un flwyddyn yn union ag yr adeiladwyd Horeb, Bangor. Yr oedd y gymdeithas Wesleaidd yn bod yn Aber, fel ym Mangor, ers dros ugain mlynedd cyn hynny. Dywed y Parch. Lot Hughes yr hanesydd Wesleaidd cynnar yn ei 'Drem' ar 'Aber, Cylchdaith Bangor' (Yr Eurgrawn, 1865, tt.377-9): Ymwelwyd â'r lle gan bregethwyr y Wesleyaid mor foreu â'r flwyddyn 1804. Daeth Mr Jones Bathafam a Mr John Maurice yno pan oedd y ddau yn cydlafurio ar Gylchdaith Caemarfon. wrth dalcen tŷ a elwid y 'Lon Las' y pregethasant y waith gyntaf, ac ymddengys iddynt gael tyrfa dda i'w gwrando y pryd hwnnw. Dywed yn nes ymlaen: Yr oedd yma rai hen gymeriadau lled ryfedd, a rhyw ganolig iawn o lewyrchus fu yr achos yr adeg orau fu amo yn y cyfnod yma, a bu agos iddo a llwyr ddiflanu lawer gwaith. Ond ymhen rhyw ugain mlynedd ymddengys y bu newid go fawr er gwell. Dywed Lot Hughes: Yn y flwyddyn 1821 daeth Mr Hugh Hughes i Gylchdaith Caerynarfon, a thalodd sylw neilltuol i Aber a chafwyd pregethu llawer mwy rheolaidd na chynt. Daeth Robert Rowland Ty'n derw i fyw i'r gymdogaeth yr adeg yma. Y mae awgrymiadau cryfion yn y dyfyniad uchod o rai o brif elfennau llwyddiant yr Achos. Mae ymroddiad a sel personol aelodau yn rheidrwydd o'r pwys mwyaf ym mhob oes. Mae'r cyfeiriad at 'Robert Rowland Ty'n derw' yn dod i fyw i'r gymdogaeth yn cyfleu yn go bendant ei fod yn un gwerth ei gael i eglwys ac ardal. 'Roedd y Robert Rowland hwn o'r un teulu ag RJ Rowlands (Meuryn), y cawn gyfeirio ato eto. Y mae gweinidogaeth gyson a gofal bugeiliol yn