Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Un a fu'n golofn werthfawr yn yr eglwys hyd ddiwedd y daith oedd Mrs Florrie Parry a drigai am lawer o flynyddoedd yng Nglandwr, y ty ger Capel Soar. Yr oedd yn fawr iawn ei diddordeb ym myd natur, ac yr oedd yr ardd flodau o gwmpas y capel a'r tŷ yn ddigon o ryfeddod; ond mwy a dyfnach oedd ei diddordeb yn yr Achos Mawr gyda'r cwmni bach yn Soar. Bu'n drysorydd yr eglwys ac yn organydd ac yn rhoi lluniaeth a chroeso mawr ar yr aelwyd i bregethwyr yr Efengyl. Cai flas ar sgyrsio, ac yr oedd ei chwmni'n fwynhad ac yn fendith, gan mor amrywiol a diddorol ei diddordebau. Hunodd yn dawel 27 Mai 1982, yn 80 oed, a rhoed ei chorff i orffwys ym mynwent Eglwys Sant Bodfan, Aber. Aeth y cwmni'n fach gyda rhediad y blynyddoedd. Bu diboblogi mawr yn hanes Cymry'r fro; ond daeth hefyd lawer o estroniaid i fyw i'r ardal. Aeth y ddau gapel ym mhentref Abergwyngregyn (sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a chapel yr Eglwys Fethodistaidd) i deimlo oddi wrth y newid, a thyfodd perthynas agos rhwng y ddwy ddiadell, gyda'r naill a'r llall yn mynd i gorlannau ei gilydd ers blynyddoedd. Dim ond ffordd oedd rhwng y ddau gapel, a gellir croesi ffordd cystal â cherdded ar hyd-ddi. Gan i'r ddwy eglwys cydaddoli a chydweddio, nid anodd oedd iddynt ymuno a'i gilydd. Felly y bu, a felly y mae. Pan ddaeth y gymdeithas i ben yn swyddogol yno, 31 Awst 1982, gwnaeth fy nghyfaill y Parch. Erfyl W Blainey, (a fu â gofal eglwys Soar ganddo yn ystod yr un mlynedd ar ddeg y bu'n weinidog yn Llanfairfechan, 1970-81) restr o aelodau olaf yr eglwys: Mrs Hugh Jones, Henfaes Cottage; Mrs Williams, 1 Tan Aber; Miss Eirlys Williams, eto; Mrs Gwynfor Williams, eto; Mr William Morris, Prince Cottage; Mrs William Morris, eto; Mrs Ellen Jones, Ddol Cottage; Mrs Mair Griffith, 4 Cae'r felin; Mr Gareth Griffith, Hen Felin; Miss Ceinwen Griffith, eto; Mr Wyn Griffith, eto; Mrs Olwen Griffith; Mrs Doris Williams, Hen Dy Capel; Mr Derek Griffith, Stryd Deiniol, Deiniolen. Ni cheisiwyd sôn dim am y gweinidogion a fu'n gofalu am Soar, Aber dros gan mlynedd a hanner ei hanes. Bu nifer o Lanfairfechan a Bangor yn gofalu, yn ôl y drefn Wesleaidd. YParch. Tudor Davies Aberystwyth