Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wedi prynu tir gan Thomas Roberts, Rhydydeuddwr, am £ 85.1.0c yn Stryd Sussex, aeth y Wesleiaid ati yn gyflym i godi Seion, ac agorwyd y capel hwnnw ym mis Awst 1853. Gwasanaethwyd yng NgWyl yr Agor gan y Parchn John Bartley ac Isaac Jones, a Mr Hugh Owen, a chafodd Seion y fraint o groesawu'r Synodau rai troeon. Yn sgîl datblygiadau pellach yn y dref, ac yn bennaf oll yn sgîl Diwygiad 1859 a gysylltir a hanes Humphrey Rowland Jones, Tre'rddol a Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, cynyddodd aelodaeth Seion 0 66 i 145. Ond wedi brig y llanw, daeth adwaith drachefn. Fel y daethai newid cyfundrefnol i'r achos yn y Rhyl yn 1812 trwy gysylltu'r Rhyl â Threffynnon yn lIe Rhuthun a Dinbych, a thrachefn newid yn 1839 trwy gysylltu'r achos yn y Rhyl â Llanasa yn Ue Treffynnon, daeth newid wedyn ym mlwyddyn Diwygiad '59, cysylltwyd y Rhyl â Chylchdaith Dinbych. Yn y flwyddyn honno y sefydlwyd y gweinidog Wesleaidd cyntaf yn y Rhyl ac y codwyd ty iddo yn Stryd Elwy, a'r gweinidog hwnnw (John Hughes, Biwmares) yn ddarostyngedig i Arolygwr Cylchdaith Dinbych. Beth bynnag, yn 1866, gwnaed y Rhyl yn ben ar gylchdaith newydd, a dyrchafwyd y Parch. WH Evans (Gwyllt-y-Mynydd) o fod yn ail weinidog ar Gylchdaith Dinbych i fod yn Arolygwr Cylchdaith y Rhyl. Yn 1868, blwyddyn bwysig buddugoliaeth gyntaf y Rhyddfrydwyr yng Nghymru, gwelwyd datblygiad pwysig yn hanes Wesleaeth y Rhyl. Yr oedd amryw o'r Wesleaid a oedd yn byw ar yr ochr ddeheuol i'r rheilffordd yn mynd yn hyn ac yn gweld y pontydd yn mynd yn fwy serth a'r daith i Seion yn mynd yn hwy. Ar ben hynny hefyd yr oedd terasau o dai gweithwyr y rheilffordd yn codi'n gyflym yn Strydoedd Marsh, Gamlin, Sisson a Mill Bank ac eraill. Gwelwyd fod angen codi cangen o Seion, rhyw gapel bach i gynnal ysgol Sul ac oedfa brynhawn i'r rhai hyn, a gwelai Gwyllt-y-Mynydd, y gweinidog brwdfrydig, resymeg yn y ddadl. Nid capel 'split' fel yn hanes Horeb a St Paul, Bangor, yn ôl Tegla yn Gyda'r Blynyddoedd (t.181) a fwriedid, ond cangen o Seion. Aed â'r maen i'r wal heb oedi mwy. Prynwyd tir ar gornel Stryd Sisson a Ffordd Rhuddlan ar bwys yr orsaf, a chodwyd capel a'i agor ar Wyl yr Holl Saint, calan Tachwedd 1868, gan ei alw'n Soar, yr hyn o'i ddehongli yw 'bychan' (Genesis XIX, 20) a chan mai Soar yn yr Hen Destament oedd dinas noddfa Lot a'i deulu rhag dinistr Sodom a Gomorra, cofiwyd am yr hybarch Lot Hughes, uwchrif a oedd newydd symud i fyw i'r Rhyl o Abergele, a phriodol anghyffredin oedd ei wahodd ef i draddodi'r bregeth gyntaf yn Soar, Y Rhyl. Yna, bregethodd y gweinidog ifanc addawol, RT Owen o Gaer, J Jones, Brymbo a'r gweinidog, Methuselah Thomas, a oedd ar dân, hyd yn oed cyn Diwygiad '59, yng Ngŵyl yr Agor. 'Cyfodasai yr haul ar y ddaear', meddir 'pan ddaeth Lot i Soar' o ymyl y Môr Marw, a theimlodd John Hughes y pen- blaenor, gweithwyr Cwmni Rheilffordd yr LNWR, a nifer o'r rhai a oedd yn tynnu ymlaen fod rheswm da dros weithredu'n greadigol fel y gwnaethant. Yn wir, gwelodd rhai o aelodau yr Eglwys sefydledig yr un rhesymeg pan ymneilltuent o eglwys fawr Sant Thomas yng nghanol y dref (a godwyd yn 1855) i fan cyfagos i Soar yn 1895, pan agorwyd eglwys Sant Ann yno. Fel y dywedwyd eisoes, y pen-blaenor adeg symud i'r capel newydd yn 1868 oedd John Hughes (1834-1915). Daethai o Dŷ'n y Caeau, Gwaunysgor, lle bu ei dad a'i daid, fel yntau, yn flaenoriaid gyda'r Wesleaid. Yr oedd yn perthyn i'r clerigwr John Williams (Ab Ithel), un o sefydlwyr yrArchaeologia Cambrensis, ac i deulu'r Macdonalds. Daethai i Elwy House, 25 Vale Road i gadw siop. Yr oedd yn ddyn urddasol a locsyn ganddo ac yn gwisgo het gron fawr ar ei ben; difrifol ei wedd, cryf ei argyhoeddiadau, gŵr medrus ac amryddawn, yr oedd yn arweinydd