Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn trefn o un i un, Ond addurn penna'r Capel Yw gwenau Duw ei hun. Er mor llwyddiannus a fu ymdrechion yr eglwys ac mor haelionus y bu rhai o'r aelodau a chyfeillion eraill tuag at godi y Soar newydd yn ô1 Gabriel Hughes, yr oedd rhagor o waith i'w wneud yn y capel ac ar y deiliaid. Yr oedd eisiau cadeiriau ac yr oedd eisiau 'gwenau Duw' nid y naill neu'r llall, ond y ddau; o gael y 'gwenau', wedyn credai Gabriel Hughes y deuai'r cadeiriau. Mewn cerdd yn YFwyell (cylchgrawn John Hughes, Eglwysbach) yn 1895-6 (t.82), o dan deitl Y Wir Winwydden o eiddo Gabriel Hughes mae ei flaenoriaeth ef yn ddigon clir: Os nad yw'r ffrwyth yn awr Yr hyn y dylai fod, Glanha ni, Arglwydd mawr, Gad i ni ddwyn dy nod; Ac yna byw yng Nghrist a wnawn, A chariad brawdol fydd y grawn. YParch.EHGriffiths YRhyl