Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

James Egan Moulton, fel y dref fwyaf Seisnig o holl drefi Cymru. Rhag llyncu'r disgrifiad hwnnw yn ddigwestiwn, beth bynnag, dylid cofio am JW Trevor, gŵr parchedig di-Gymraeg arall a ddaeth i Gaernarfon ond cwta bymtheng mlynedd ynghynt, fel ficer y plwyf, ac a orfodwyd gan bwysau aelodau ei Festri ei hun i ymneilltuo nes iddo ddod yn hyddysg yn yr iaith.6 Beth bynnag am hynny, yr oedd Caernarfon i brofi'n ganolfan ffyniannus ddigon ar gyfer y Gylchdaith am flynyddoedd, i'r graddau bod capel newydd, mwy addurniedig wedi ei godi ar Stryd y Castell yn 1877, ac a wasanaethai'r eglwys Saesneg nes i'r achos ddod i ben yn 1923, pryd y gwerthwyd y capel i'r Seiri Rhyddion, sydd yn dal i ddefnyddio'r adeilad hyd heddiw.7 Gyda dyfodiad y rheilffordd, ac wedyn y colegau, i Fangor, aeth achos Bangor yn gryfach ac yn bwysicach tra chafwyd trai yng Nghaemarfon. Erbyn heddiw, Bangor, Llanfairfechan a Phenmaenmawr sydd yn parhau â chenhadaeth hen Gylchdaith Caernarfon a Bangor. Un nodwedd o'r Gylchdaith yn ei blynyddoedd cynharach oedd yr awydd i geisio ymestyn cymorth a chynhaliaeth i bocedi bach o Wesleaid di-Gymraeg ar hyd a lled y sir, wedi i'r cyfryw frodyr a chwiorydd gael eu denu at berwyl gwaith neu wyliau. Mae Cylchdaith Bangor, fel y'i gelwir heddiw, wedi cadw ei chofnodion yn ganmoladwy o ddiogel, ac ers ugain mlynedd bellach maent wedi bod ar gadw yn Archifdy Caemarfon. Mae'n amlwg o'r cofnodion cynnar sydd yn goroesi fod y Wesleaid yn awyddus iawn i sefydlu achosion newydd lIe bynnag yr oedd angen ac fe geir nifer o gyfeiriadau at gynulleidfaoedd Saesneg mewn trefi Ue nad oes dim ar ôl o'r achosion hyn bellach. Tyfodd eglwysi cryf yn Amlwch a Chaergybi'n gynnar iawn fel canghennau o Gylchdaith Caernarfon a Bangor, ond cyn bo hir, sefydlwyd cylchdaith newydd gan y Saeson ym Môn. Ymhen ychydig flynyddoedd, teimlid yr angen am achos ger safle codi Pont Britannia, er diwallu anghenion ysbrydol yr holl weithwyr oedd yn cael eu cyflogi ar y gwaith o godi'r bont. Cychwynnodd yr achos yn fuan cyn y Nadolig yn 1848, gyda 5 o aelodau, a dau aelod arall ar brawf. Derbyniwyd tri aelod arall ar brawf yn ystod Gwanwyn 1850, ond gyda chwblhau'r bont, diflannodd y gynulleidfa; yr un pryd, fe gollodd yr eglwys ym Mangor draean o'i haelodau, ac ni fu'r aelodaeth yno yn codi'n uwch na 15 neu 20 am ddeng mlynedd. Gyda'r holl weithio ar fwynau yn ystod y ganrif, nid yw'n syndod fod nifer o gymdeithasau bychain wedi ymddangos lIe byddai llond dwrn o Wesleaid di-Gymraeg yn cael eu hunain yn gweithio efo'i gilydd, a hynny ymhell o'r capeli Saesneg. Mae'n ymddangos fod y gweithiau mwyn yn denu nifer o fwynwyr profiadol o ardaloedd megis Swydd Derby a Chernyw lle oedd Wesleaeth yn gryf, a daethant a'u cred gyda hwynt. Yr oedd James Treweek, capten Gwaith Mona ar Fynydd Parys ger Amlwch, yn enghraifft gynnar o ddyn o'r fath; daeth â'i ffydd Wesleaidd gydag ef o Gemyw, ymunodd â'r achos Wesleaidd Cymraeg a gweithiodd yn galed i hybu'r enwad, gan brofi ei hun yn bregethwr effeithiol nid yn unig yn Saesneg ond hefyd, wedi iddo ddysgu'r iaith, yn Gymraeg hefyd. Yr oedd yn ddyn dylanwadol, yn ennill parch ei feistr ac yn troi yn rhwydd ymysg pobl bwysig Ynys Môn. Yr oedd cael dyn fel y fo yn arddel ei Wesleaeth yn gaffaeliad nid bychan yn y dyddiau cynnar, a chydnabyddid gan rai fod moes a buchedd y mwynwyr Wesleaidd wedi cyfrannu at lwyddiant a sobrwydd y gwaith mwyn. Ceir awgrymiadau ei fod yn barod iawn i hybu gyrfaoedd ei deulu a'i gyd-Cernywyr ar draul y Cymry. Gellid beirniadu Treweek yn hallt am ei ymwneud mewn busnes, ond rhaid edrych arno i raddau yng nghyd-destun safonau masnachol caled y Chwyldro Diwydiannol. Ar y llaw arall, ni ellir darllen am flynyddoedd cynnar yr enwad yng Ngwynedd heb ddod ar draws ei enw drosodd a thro, yn Arfon yn ogystal â dros y dŵr ym Môn.8