Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFA HANES: FFYNONELLAU METHODISTAIDD YN LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU (Traddodwyd y sgwrs hon yng nghyfarfody Gymdeithas Hanes a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 27 Medi 1997. Trefnwyd arddangosfa o eitemau o'r casgliadau a rhoddwyd cyfle i'r aelodau weld adeilad newydd y Llyfrgell a agorwyd ym Mai 1997.) Llyfrgell Genedlaethol Cymru Er mwyn deall natur y casgliadau Methodistaidd sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol rhaid dweud rhywbeth i ddechrau am y Llyfrgell yn gyffredinol. Crewyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1907 ar ôl brwydr hir i berswadio'r Llywodraeth Brydeinig bod Cymru'n haeddu sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. O'r diwedd, yn 1907, crewyd dau sefydliad, sef Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Derbyniwyd y tir lIe mae'r Llyfrgell yn sefyll yn rhodd gan yr Arglwydd Rendel. Daeth casgliad hynod o bwysig o lawysgrifau a llyfrau yn rhodd gan Syr John Wllliams a oedd wedi bod yn gynecolegydd i'r Frenhines Fictoria a'i theulu. Sefydlwyd y Llyfrgell o dan Siarter Frenhinol. Mae'r Siarter yn rhoi ar y Llyfrgell ddwy ddyletswydd: yn gyntaf, i greu casgliadau cynhwysfawr o ddefnyddiau Cymreig a Cheltaidd; ac yn all, i greu hefyd gasgliadau ymchwll sylweddol ar bob testun ac mewn unrhyw iaith. Dyletswydd cyntaf y Llyfrgell, yn ddi-ddadl, yw creu'r casgliadau gorau yn y byd am Gymru a'i phobl. Ond mae'n bwysig cofio bod y Llyfrgell hefyd yn darparu defnyddiau ar bob math o bynciau. Dylid pwysleisio hefyd bod y Llyfrgell yn cynnwys llawer mwy na llyfrau. Mae'r Siarter yn gorchymyn y Llyfrgell i gasglu'r defnyddiau canlynol: · llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd · llawysgrifau · archifau · mapiau · darluniau a ffotograffau Ac, yn fwy diweddar, ychwanegwyd · sain a delweddau symudol · microffurfiau · defnyddiau electronig. Ceir rhyw 220 o staff yn y Llyfrgell ar hyn o bryd ac maent yn cael eu trefnu mewn tair adran guradurol ac un adran o weinyddiaeth a gwasanaethau technegol. Yr adrannau curadurol yw Llyfrau Printiedig; Llawysgrifau a Chofysgrifau; a Darluniau a Mapiau, sydd erbyn hyn yn cynnwys hefyd Sain a Delweddau Symudol. Mae'r Adran Weinyddiaeth a Gwasanaethau Technegol yn cynnwys, ymysg eraill, yr isadrannau cadwraeth a chyfrifiaduro. Gall unrhyw un sy'n ddeunaw oed geisio am docyn darllen. Nid yw'r Llyfrgell yn codi tâl mynediad naill ai am ddefnyddio'r casgliadau neu am ymweld â'r arddangosfeydd a drefnir trwy'r flwyddyn.