Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Methodistiaid Calfinaidd Oherwydd y cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddau fudiad, ni allaf orffen heb gyfeirio at gasgliad pwysig y Methodistiaid Calfinaidd (erbyn hyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru) sydd yn y Llyfrgell. Yn 1934 cytunodd y cyfundeb i roi'i archifau ar adnau yn y Llyfrgell. Ychwanegir at y casgliad yn gyson a chofnodir eitemau newydd yng Nghylchgrawn Hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Yn 1992 hefyd sefydlwyd creirfa newydd i'r cyfundeb yn yr Oriel Gregynog. Yn y greirfa adroddir agweddau o hanes y mudiad a gwelir eitemau o ddiddordeb hanesyddol megis siôl Pantycelyn, llestri cymun rhai o'r capeli, ac offer i ddysgu'r wyddor i blant. Mae'r rhain i gyd fel yr archifau yn perthyn i Gymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd ac ar adnau i'r Llyfrgell Genedlaethol. Lionel Madden Aberystwyth