Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODYN GOLYGYDDOL Pleser mawr yw cyflwyno cyfrol arall o gylchgrawn hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru i aelodau a charedigion yr enwad. Rhaid yn y lle cyntaf ymddiheuro fod dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i'r gyfrol ddiwethaf ddod o'r wasg; i raddau helaeth prinder deunydd sydd yn gyfrifol am yr oedi. Diolch diffuant iawn felly i'r ffyddloniaid sydd wedi gofalu nad yw'r tudalennau hyn yn hollol wag. Yr wyf yn dra dyledus hefyd i Mr Illtud Griffiths am ei barodrwydd i ganiatáu ailgyhoeddi pennod o lyfr gwerthfawr ei dad, y diweddar Barch. J. Henry Griffiths; ac i'r Parch. Ddr O.E. Evans am ei holl gefnogaeth ymarferol wrth sicrhau bod y cyhoeddiad yn gweld golau dydd. Wedi newid argraffwyr y tro diwethaf, braf yw cael mynd yn ôl at Owain Hammonds unwaith yn rhagor; ar wahân i lawenhau yn ei waith taclus, mae'n addas nodi bod stiwdio Mr Hammonds yn Ebeneser, hen gapel Methodistaidd yn y Bontgoch, a'r hen adeilad felly'n dal i chwarae rhyw ran fechan yn hanes yr enwad! Tynnir eich sylw'n arbennig at erthygl Dr Lionel Madden ar fynegeio'r Eurgrawn. Mae'r gwaith arfaethedig o lunio mynegeion i'r ffynhonnell hynod bwysig hon ar gyfer hanes Methodistiaeth yng Nghymru yn addo bod o fudd mawr. A sylwer yn arbennig ar y gwahoddiad i ddarllenwyr Bathafarn nodi'r hyn a fyddent yn ei gael yn ddefnyddiol mewn mynegai o'r fath. Mewn byd electronaidd, mae 'rhyngweithiol' yn air mawr, a dyma gyfle i bawb ymateb i gais Dr Madden am fewnbwn tuag at union gynnwys y gwaith. Hoffwn annog pob un sydd yn ymddiddori yn hanes Methodistiaeth yng Nghymru i ystyried onid oes ganddynt gyfraniad i'w wneud i gynnwys a pharhad y cylchgrawn hwn. Arferai'r diweddar Owain Owain gynnwys nodyn bob mis yn YGwyliedydd yn nodi faint o gapeli'r enwad oedd yn llafar a faint oedd yn fud, sef faint o gapeli oedd wedi anfon pwt ato am weithgareddau'r achos. A oes hanes eich capel, neu gylchdaith, neu arwr Methodistaidd chi wedi derbyn sylw yn y cylchgrawn hwn? Os nad oes, fe'ch anogir yn frwd i lenwi'r bwlch: cofied pawb mai hanes mud yw hanes a aeth yn angof. Cewch anfon unrhyw ohebiaeth a chyfraniadau at y golygydd, Yr Hendre, Dolydd, Caernarfon, LL54 7EF. Dyddiad cyhoeddi'r rhifyn hwn o Bathafarn yw 2003, a phriodol yw nodi mai dyma flwyddyn trichanmlwyddiant geni John Wesley yn Epworth ar 17 Mehefin. I'r rhai sydd yn gallu ymweld â Swydd Lincoln, bydd nifer o arddangosfeydd yn yr hen Reithordy yno. Hefyd, fe ddaw'r Gynhadledd i Landudno, lle bydd nifer o ddigwyddiadau'n nodi'r achlysur. I'r rhai sydd â mynediad at y Rhyngrwyd, mae'n werth cadw golwg ar dudalennau www.wesley2003.org.uk safle sy'n llawn o wybodaeth am dad Methodistiaeth. Cyfnod o edrych yn ôl felly, ar un wedd: ond i'r Methodist, oni ddylai hanes ei enwad fod yn alwad i ail-ymroi i waith yr Eglwys? Tra bod gwaith Wesley'n dal yn y tir a'i ôl i'w weld ar fywyd ysbrydol Cymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, cylchgrawn hanes fydd Bathafarn; rhaid gofalu nad cylchgrawn archeolegol mohono yn y dyfodol oherwydd i ni adael i ddylanwad John Wesley ddiflannu o dan y pridd yn y gornel hon o'r byd.