Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYNEGEIO'R EURGRAWN Gŵyr pawb sy'n gweithio ar hanes y Methodistiaid Wesleaidd mor sylfaenol yw'r Eurgrawn fel ffynhonnell wybodaeth. Ac nid haneswyr ein Cyfundeb yn unig sy'n cyfeirio at y cyfrolau. Gan fod y pynciau a drafodir mor amrywiol a'r cylchgrawn yn ymestyn dros gymaint o flynyddoedd, ceir yn YrEurgrawn eitemau sydd o ddiddordeb i lawer o feysydd eraill. Y prif broblem i'r sawl sy'n chwilota yn Yr Eurgrawn yw diffyg mynegai neu fynegeion i'r cynnwys. Mae'n wir bod llawer o'r cyfrolau yn cynnwys 'dangoseg' sy'n rhoi arweiniad syml i'r eitemau hynny sydd yn y gyfrol. Ond, er bod y dangosegion yn ddefnyddiol, maent yn amrywio o ran ansawdd a chywirdeb ac nid oes un ar gyfer pob cyfrol. Ni bu ymdrech erioed, hyd y gwn i, i gynhyrchu dangoseg neu fynegai ar gyfer mwy nac un cyfrol ar y tro. Ar ôl treulio tipyn o amser gyda'r Eurgrawn yn ddiweddar credaf fod gwir angen darparu ar gyfer ymchwilwyr fynegai neu fynegeion sy'n ymestyn dros yr holl gyfrolau. Ond sut i fynegeio cylchgrawn mor fawr? Yn ddelfrydol, mae'n debyg, dylid cael un mynegai a fyddai'n cynnwys yr holl enwau, lleoedd, pynciau a barddoniaeth yn holl gyfrolau'r Eurgrawn o 1809 hyd y rhifyn olaf yn 1983. Meddyliais yn hir am y posibilrwydd o wneud hyn ond mae'n rhaid imi ddweud nad wyf yn meddwl ei fod yn ymarferol. Y prif broblem yw maint Yr Eurgrawn. 0 1809 hyd 1961 cyhoeddwyd Yr Eurgrawn yn fisol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, felly, ymddangosodd rhyw 1,836 o rifynnau a phob un gydag amrywiaeth fawr o ran cynnwys. Er bod maint y rhifynnau yn newid o'r naill gyfnod i'r llall, mae'r rhan fwyaf o'r cyfrolau hyn yn cynnwys rhwng 400 a 500 o dudalennau a weithiau mwy na 500. Yn ychwanegol at hynny, o 1962 hyd 1983 cyhoeddwyd YrEurgrawn yn chwarterol. Nid yw'n anodd gweld yr anawsterau a fyddai'n wynebu ymdrech i fynegeio holl gyfrolau'r Eurgrawn mewn un mynegai cynhwysfawr. Yn sicr, byddai'n cymryd amser hir iawn i'w gynhyrchu a'r perygl yw y byddai rhywun yn dechrau ar y gwaith a marw cyn ei gyflawni, a byddai'r holl ymdrech yn mynd yn ofer. Wedi defnyddio'r Eurgrawn a threulio tipyn o amser yn ystyried y posibiliadau, deuthum i'r casgliad mai'r hyn sydd yn ymarferol, a byddai'n wirioneddol ddefnyddiol i ymchwilwyr, yw cyfres o fynegeion yn rhestru'r holl gynnwys o 1809 hyd 1983 mewn meysydd arbennig yn y ffordd fwyaf defnyddiol i'r ymchwilydd. Trwy gynhyrchu mynegeion fel hyn dros nifer o flynyddoedd, efallai byddai modd i'w cyhoeddi fel atodiadau i Bathafarn. Byddai'n braf pe bai modd i'w cyhoeddi mewn ffurf sy'n addas i sefyll gyda'r Eurgrawn ar y silff. Ni hoffaf yr arfer o gyhoeddi mynegeion mewn maint gwbl wahanol i faint y cylchgrawn a fynegir. Er mwyn gwneud yr hyn sydd gennyf mewn golwg yn glir rhestraf y prif fynegeion yr hoffwn eu gweld, gydag ychydig o drafodaeth am natur y cynnwys. Cydnabyddaf fod y cynlluniau hyn yn golygu bydd Yr Eurgrawn yn cael ei fynegeio mewn sawl cyfrol. Ond y gwir yw, hyd yn oed pe bai rhywun yn ymgymryd â'r dasg o greu un mynegai cynhwysfawr, byddai'n rhaid i'w gyhoeddi mewn nifer o gyfrolau oherwydd maint y cylchgrawn.