Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRASLUN 0 HANES SEION, HIRAEL, BANGOR, 1879-1979 Agorwyd y capel am y tro cyntaf ar Fedi 27, 1879. Dyma a ddywed Hanes Wesleyaeth Gymreig gan y Dr. Hugh Jones (Cyfrol IV, 1. 158): Cofrestrwyd ef yn lle addoli Medi 22, 1879 ac agorwyd ef Medi 27, 1879 trwy weinyddiad y Parch. n. T(homas) Morris, S(amuel) Davies, Ishmael Evans ac Isaiah Jones. Gwelwn y tu allan uwchben porth y Capel, ar y chwith y geiriau wedi eu cerfio: Zion Wesleyan Chapel, Erected A D 1878; ac ar y dde eto uwchben y porth: Site granted by Right Honourable Lord Penrhyn. Gwelir cyfeiriadau tebyg at yr Arglwydd Penrhyn wedi eu cerfio ar gapeli yn y ddinas a'r cylchoedd hynny. Ymddengys fod sylfeini'r Capel a'r gwaith o'i adeiladu wedi mynd rhagddo yn ystod chwe mis olaf 1878, ac ymlaen yn 1879. Y mae amryw bapurau a biliau ar gael yn sôn am hyn. Adeiladwyd y Capel gan Evan Williams, adeiladydd, Garth, Bangor, ar gost oedd £ 1,250 yn ôl cytundeb a arwyddwyd gan Evan Williams ar Orffennaf 9fed, 1878. Cafwyd rhan o'r defnyddiau at y gwaith cerrig gwerth £ 229 yn ôl un ddogfen gan Owen Griffith, Bron Eryri, Llanfairfechan. Y mae'r capel oddi mewn o bren pîn prydferth o liw rhuddgoch, gyda seddau llydain i eistedd yn hwylus ar y llawr a'r oriel rhwng 350 a 400. Priodol cofnodi enwau yr Ymddiriedolwyr cyntaf- ddeunaw ohonynt fel y ceir hwy yn Y Weithred yn 1879: Thomas Lewis, Garthewin, Merchant; Edward Jones, Upper Bangor, Grocer; Rev. Owen Williams, Superintendent Minister; Thomas Charles Lewis, Garthewin, Merchant; John Williams, Gwynfryn, Gentleman; Peter Williams; Jones, Museum, Curator; Henry Jones, Castle Bank, Commercial Traveller; William Lloyd Jones; Thomas, Buildings Engineer; Henry Davies, Post Office, Upper Bangor, Grocer; Robert Jones, 315 High Street, Grocer; John Thomas, 64 Ambrose Street, Ship Builder; John Thomas, 6 Ambrose Street, 'Trowyer', (ar y Weithred) ('Stawyer' ar y Memorandum); Henry Jones, College Road, Garth, Book Keeper; Thomas Owen, Water Street, Smith; Hugh Owen, Ambrose Street, Sawyer; Humphrey Jones, Fountain Street, Smith (heb fedru torri ei enw). Nid oedd pob un o'r Ymddiriedolwyr uchod yn aelodau yn Seion. Yr oedd rhai yn aelodau yn Horeb, ac eraill yn St Paul. Nid oedd Eglwys Wesleaidd Glanadda yn bod ar y pryd. Ond hyd y gallaf olrhain, 'roedd y mwyafrif yn aelodau yn Seion. Yn y cyswllt hwn, dylid pwysleisio fod capel Wesleaidd arall yn Hirael ers dros 25 0 flynyddoedd cyn adeiladu Seion. Dywed y gweinidog a'r hanesydd Wesleaidd (cyntaf?) Y Parch. Lot Hughes yn YrEurgrawn, 1863 (t.428): Yr oedd y cynulleidfaoedd a'r aelodau yn cynyddu, Horeb yn llenwi, rhestrau yn amlhau, blaenoriaid newyddion yn cael eu penodi, a'r gwaith da yn myned rhagddo yn ogoneddus, a daeth eglwys Horeb i ddechrau magu ei phlant mewn cyrrau eraill o'r ddinas. Yn y flwyddyn 1852 trwy haelfrydedd Evan Evans, Ysw. Ni cheisiwn sôn yn awr am Evan Evans, Erw Fair, ond yn unig ddweud mai gẃr goludog oedd, a hael nodedig i eglwysi Wesleaidd Bangor. Yr oedd yn flaenor yn Horeb. Cawn sôn peth amdano dro arall.