Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHDAITH COEDPOETH Rhagair Ni chefais i hi'n anodd i fynd ati i grynhoi'r hanes byr hwn am gylchdaith Coedpoeth. Yng Nghoedpoeth y'm ganed ac yno y bûm yn byw hyd nes fy nerbyn i'r Weinidogaeth ym 1932. Ar ôl hynny hefyd, deuwn ar fy rhawd i'r gylchdaith fel na thorrais fy nghysylltiad â hi. Ar wahoddiad, dychwelais i'r gylchdaith, i Wrecsam, 1965-70, cyn symud i Goedpoeth. Yn Rehoboth, Coedpoeth, y bu fy rhieni yn aelodau ac yn y capel hwnnw y'm bedyddiwyd i, fy nerbyn yn aelod eglwysig a'm derbyn i'r Weinidogaeth. Yno hefyd yr ymbriododd fy mhriod a minnau. Yn fachgen, cofiaf ddod ar ambell neges i'r mans hwn sy'n gartret imi rẃan, eithr ni roddais droed ymhellach na'r drws y pryd hynny. Ni allaswn fod wedi gwybod y deuwn byth i fyw yma, i'r tŷ lle bu ewythr fy mhriod, y Parch. Richard Jones, BA, pan oedd weinidog yn y gylchdaith hon yn byw, a mam fy mhriod, am ysbaid byr, yn cadw tŷ iddo. 'R wy'n dal i ryfeddu fod y bobl y cefais i fy nghyd-fagu â nhw wedi'm gwahodd i fod yn weinidog iddynt. Am iddynt f'adnabod, hyderaf i hynny fod o fwy o help iddynt nag o rwystr. Yng Nghoedpoeth y bu dechrau'r daith weinidogaethol i mi, a diolchaf imi gael fy nghadw i ddod i olwg ei diwedd yn yr un lle. Eric Edwards Bryn Myfyr Coedpoeth Dygŵyl Ddewi 1975 Nodyn y Golygydd Yr ydym yn dra diolchgar i'r Parch. Eric Edwards am ganiatâd i ailargraffu yr hanes hynod ddefnyddiol a difyr cylchdaith Coedpoeth a ymddangosodd yn gyntaf ar ffurf pamffled yn ôl ym 1975, fe1 y gellir ei gadw ar ffurf mwy parhaol at ddefnydd cylch ehangach o ddarllenwyr. Diwygiwyd ambell i air lle sonnir am 1975 fel yflwyddyn hon' ac ati yn y gwreiddiol, a diweddarwyd ambell i ffaith lle cafodd y wybodaeth mewn llawysgrifen yr awdur ar ei gopi o o'r pamffled. Fel arall, cadwydyn gaeth at y testun gwreiddiol. GOL. Am lawer o flynyddoedd, cylchdaith Coedpoeth oedd y fwyaf o gylchdeithiau Cymraeg yr Eglwys Fethodistaidd o ran nifer eglwysi a nifer aelodau. Adroddwyd y nifer mwyaf o aelodau cyflawn 1727 yng Nghyfarfod Chwarter Mawrth 1922. Ni ddaeth y nifer o dan 1500 hyd 1942, nac o dan 1000 hyd 1961. Y nifer a adroddwyd yn ystadegau y Cyfundeb, Tachwedd 1974, oedd 440 a 695 yn y Rhestr Gymundod. Erbyn 1975 yr oedd cylchdeithiau efo mwy o aelodau, a mwy o eglwysi, nag oedd yng nghylchdaith Coedpoeth, eithr cylchdeithiau a ffurfiwyd wrth uno cylchdeithiau llai yw'r rheiny tra na bu fawr o newid yn nherfynau cylchdaith Coedpoeth er 1859 pan dynnwyd chwech o