Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSTUMTUEN: ARDAL UN CAPEL Ail-argraffwyd y canlynol 0 lyfr y diweddar Barch. J. Henry Griffiths, 'Bro Annwyl y Bryniau: atgofion am Ystumtuen' (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1988) trwy ganiatâd caredig eifab, Mr. Illtud T. Griffiths. Un o nodweddion arbennig Ystumtuen rhagor llawer ardal arall oedd mai un achos crefyddol yn unig a geid ynddi, a'r blwch sgwâr eang o gapel Wesle oedd canolfan pob gweithgarwch a threfniadau o fewn yr ardal. Cyn sefydlu achos yma ym 1807, eglwys fechan y plwyf yn Ysbyty Cynfyn, ar draws afon Rheidol, oedd unig addoldy'r ardal. Rhan o blwyf eang Llanbadarn oedd y cwmpasoedd hyn hyd 1722 pan etholwyd Richard Davies, Llanbadarn, yn giwrad sefydlog yn Ysbyty Cynfyn. Cyn hynny deuai offeiriad Llanbadarn neu un o'i giwradiaid yn eu tro i wasanaethu yma ar y Suliau a chroesi'r Rheidol dros 'Bompren Ffeirad', y bont-droed fechan sy'n croesi'r afon yng ngwddf ceunant dwfn y Gyfarllwyd. Bryn-y-bobl oedd enw'r bryncyn uwchlaw'r bompren ac o'r fan honno, dywedir y byddai'r gynulleidfa'n gwylio'r offeiriad lluddedig yn nesáu ar draws y cwm. Pryd yn union y sefydlwyd tŷ addoli yma, ni wyddom. Mynn traddodiad fod yma ganolfan dderwyddol ar y cychwyn ac mai hyn yw'r esboniad ar y pum carreg fawr sy'n rhan o wal y fynwent heddiw, a'r cylch cerrig llai a geir ar draws y cwm ar dir Dolgamfa. Gwrthodir y traddodiad hwn gan arbenigwyr diweddar ac eto rhaid bod y cerrig hyn yn perthyn i gyfnod pell, pell yn ôl. Ceir traddodiad arall sy'n cysylltu Padarn fi'r fro yn gynnar iawn. Lladdwyd un o'i fynaich gan wyr Eithr yn y goedwig yng nghyffiniau Ysbyty Cynfyn. Daethpwyd o hyd iddo a'i ben wedi ei dorri ymaith ond gweddïodd Padarn a daeth y mynach yn fyw eilwaith. Rhoddodd Eithr diroedd helaeth i Badarn yn iawn am i'w ŵyr ymosod ar y mynach. Yr ydym ar dir sicrach na hyn wrth ystyried perthynas mynaich gwynion Ystrad Fflur fi'r cylch hwn. Gwyddom fod y tiroedd o gwmpas yn eiddo iddynt ac enwir dwy fferm yn ymyl, Botgoll a Prignant, ar y siarter a ganiatawyd iddynt gan Harri VI. Mynnai Thomas Richards, ysgolfeistr Pontarfynach yn ugeiniau cyntaf yr ugeinfed ganrif, fod arwyddion pendant o ganolfan grefyddol i'w cael o gwmpas y ffermydd uchod. Enwid un o gaeau'r Botgoll yn Cae- y-fynwent-fach, a cheir olion hen adeilad yn ymyl. Ym Mhrignant enwid cae yn Glas-cell ac ym Mhrignant Isaf ceid Briwdy arwyddion pur bendant fod gan y mynaich ganolfan yma. Mynnai Thomas Richards hefyd, wedi sylwadaeth fanwl, fod ffordd y pererinion o Fachynlleth ar ôl cyrraedd Ysbyty Cynfyn yn cyfeirio dros Fwlch-y-llan i gyfeiriad Llaneithr a Botgoll, a bod cyswllt gweddol rwydd felly rhwng y lleoedd hyn a'i gilydd. Fodd bynnag, efallai nad y mynaich a sefydlodd hospitium yma ond yn hytrach y Knights Hospitallers, yr urdd ddyngarol honno a gyflawnodd gymaint o wrhydri yn Rhyfeloedd y Groes. Lleygwyr milwrol oeddynt gan fwyaf, gyda nifer o fynaich yn eu rhengoedd i gynnal yr addoliadau. Adroddir hanesyn hyfryd am un o ddynion cefnog troed Pumlumon yn ymuno fi'u rhengoedd gan adael ei wraig a'r neuadd a'r anifeiliaid yng ngofal ei fugail. Ni ddychwelodd am flynyddoedd lawer. Ymhen rhai misoedd wedi iddo ymadael ganed merch iddo ond bu ei