Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRI CHYFRANIAD NODEDIG I DYSTIOLAETH GYMDEITHASOL WESLEAETH GYMRAEG Y mae'r ysgrif a ganlyn yn seiliedig ar anerchiad a draddodwyd yng Nghyfarfod Dathlu Deucanmlwyddiant Wesleaeth Gymraeg, a gynhaliwyd yng Nghapel Bathafarn, Rhuthun ddydd Sadwrn, 7Hydref 2000. Ymaefersìwn Saesnego'run deunyddynffurfiorhan o'rbennod "Church in Society: Politics, Social Effects" mewn cyfrol Saesneg a baratoir, dan olygyddiaeth Dr Lionel Madden, argyfer Y Gynhadledd Fethodistaidd sydd i'w chynnalyn Llandudno ym Mehefin 2003. Daw cyfraniad Methodistiaeth Wesleaidd Gymraeg i fywyd a ffyniant cymdeithasol Cymru'r ugeinfed ganrif i'r golwg wrth inni ystyried bywyd a gwaith pob un o dri ffigur tra nodedig un ohonynt yn weinidog a'r ddau arall yn lleygwyr a godwyd o'i mewn. Yn union fel y disodlwyd y Dorïaeth a nodweddai Fethodistiaeth hanner cyntaf y 19fed ganrif gan y Ryddfrydiaeth radicalaidd a ddaeth yn fwyfwy nodweddiadol ohoni yn ail hanner y ganrif honno, dengys hanes yr ugeinfed ganrif y modd yr etifeddwyd ac y datblygwyd ysbryd radicalaidd y Ryddfrydiaeth honno yn fwyfwy gan y Sosialaeth a ddaeth yn brif nodwedd gwleidyddiaeth Cymru. Y mae hanes y tri Methodist y mae a wnelo'r ysgrif hon â hwy yn enghraifft drawiadol o hynny. Enwau'r tri yw: (y Parch.) David Gwynfryn Jones (1867-1954), David Thomas (1880- 1967) a Robert Richards (1884-1954). David Gwynfryn Jones Ganed David Gwynfryn Jones ym Mryncrug, Meirionnydd, i deulu Wesleaidd tlawd ond uchel ei barch. Yr oedd ei daid yn ffermwr-denant a ddadfeddianwyd am bleidleisio dros yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad 1868; nid rhyfedd felly i'w fab a'i ŵyr ddod yn Rhyddfrydwyr radicalaidd brwd! Pan oedd Gwynfryn yn saith oed penderfynodd ei dad, John Jones, a oedd wedi crafu bywoliaeth fel gwas fferm am rai blynyddoedd, fynd i chwilio am frasach porfa iddo'i hun a'i deulu yn Ne Cymru; ymfudodd y teulu i Ben-y-graig yng Nghwm Rhondda a chafodd y tad waith yn y pwll glo. Er lleied ei fanteision addysg ffurfiol, gẃr tra deallus ac egwyddorol oedd John Jones, a buan y daeth yn arweinydd diogel ac uchel ei barch yn yr eglwys a'r gymuned. Anogodd ei fab i ddarllen yn eang a thrylwyr ac i wneud yn fawr o'i gyfle i fynychu'r Ysgol Fwrdd am bum mlynedd. Yn ddeuddeg oed bu raid i'r mab adael yr ysgol a dilyn ei dad i'r pwll glo, lie y bu'n gweithio dan y ddaear nes cyrraedd ei ugain oed. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol pan oedd yn ddwy ar bymtheg, a buan y gwelwyd ynddo addewid neilltuol iawn yn y pulpud. Dechreuodd dderbyn galwadau i bregethu ymhell ac yn agos, a phan gyhoeddwyd "Mr David Jones o Ben-y-graig" fel pregethwr gwadd mewn capel yn Llanelli hysbyswyd y gynulleidfa gan y cyhoeddwr fod "Thomas Aubrey wedi codi oddi wrth y meirw a'i fod yn dod i bregethu yn Llanelli"! Yr oedd yn amlwg mai gyrfa weinidogaethol oedd yn yr arfaeth iddo, ac wedi gadael y pwll glo cafodd dreulio cyfnod byr mewn "ysgol ragbaratoawl" oedd yn perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd. Ond pan ymgeisiodd am y Weinidogaeth Wesleaidd fe'i gwrthodwyd ddwywaith ar dir iechyd. O'r diwedd, fodd