Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLENYDDIAETH Y METHODISTIAID WESLEAIDD CYMRAEG Anerchiad a draddodwyd mewn cyfarfod i Ddathlu Daucanmlwyddiant Sefydlu Wesleaeth Gymraeg; Capel Bathafarn, Rhuthun, 7 Hydref 2000. Fy nhasg heddiw yw rhoi arolwg byr ar y cyfraniad llenyddol a wnaethpwyd gan y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg. Hoffwn ddechrau trwy ddyfynnu rhai geiriau gan John Wesley. Ysgrifennodd Wesley: 'The work of grace would die out in one generation if the Methodists were not a reading people." Mae'r geiriau hynny yn dangos yn glir fod Wesley yn ystyried yr arfer o ddarllen yn gwbl angenrheidiol i'r sawl sy'n ceisio dilyn Iesu Grist o ddifrif yn eu bywyd beunyddiol. Yn ôl Wesley nid oes modd i ras Duw gael effaith barhaol ar y Cristion os nad yw'n fodlon i gryfhau ac ymestyn ei ffydd a'i wybodaeth trwy ddarllen a meddwl. Trwy gydol ei weinidogaeth anogai John Wesley ei ddilynwyr yn gyson i ddarllen. Roedd ef ei hun yn ddarllenwr mawr ac hefyd yn awdur a golygydd diflino. Yn 1739 sefydlodd swyddfa gyda'r enw 'The Book Room' yn Llundain er mwyn cyhoeddi a dosbarthu llyfrau ar gyfer y Methodistiaid. Yn 1778 lansiodd John Wesley gylchgrawn i'r Methodistiaid gyda'r teitl The Arminian Magaiine, er newidiwyd y teitl i'r Methodist Magazine yn 1798 ac wedyn i'r Wesleyan Methodist Magazine yn 1822. Pan ddechreuodd Methodistiaeth Wesleaidd Gymraeg rhoddwyd yr un pwyslais ar ddarllen o'r cychwyn cyntaf. Mor gynnar ag 1809 sefydlwyd cylchgrawn misol ar gyfer y Wesleaid Cymraeg, sef Yr Eurgrawn Wesleaidd. Cyn iddi ddod i ben yn 1983 Yr Eurgrawn oedd y cylchgrawn hynaf yn y Gymraeg. Roedd yn gyhoeddiad misol 01809 hyd 1961, ac wedyn o 1962 hyd y diwedd ymddangosai yn chwarterol. Cynlluniwyd Yr Eurgrawn ar batrwm y Methodist Magaiine1, ac yn y blynyddoedd cynnar cafodd llawer o'r cynnwys ei gyfieithu o erthyglau yn y cylchgrawn Saesneg. Ond yn gyflym sefydlodd YrEurgrawn ei hun yn wir gylchgrawn Cymraeg ei iaith a Chymreig ei safbwynt. Yn naturiol, cynhwysai newyddion am y Cyfundeb Prydeinig ac am y gwaith cenhadol tramor, ond roedd y rhan fwyaf o'r cynnwys yn gysylltiedig â Methodistiaeth yma yhg Nghymru. Yn ystod y 174 o flynyddoedd o fodolaeth Yr Eurgrawn cymerai llawer o weinidogion yr awenau fel goiygyddion3, a'r rhan fwyaf ohonynt yn awyddus i roi eu marc eu hunain ar y cylchgrawn. O ddarllen trwy'r Eurgrawn mae'n hawdd gweld cymaint mae'r cynnwys yn amrywio yn ôl diddordebau arbennig y golygyddion. Byddai'n ddiddorol edrych trwy holl hanes y cylchgrawn ond nid oes amser gennyf yma i sôn am fwy nag ychydig o enghreifftiau o ddylanwad y golygydd ar y cynnwys. Dau olygydd pwysig iawn ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd Dr Hugh Jones yr hanesydd a Thomas Hughes (B) gyda'i ddiddordeb mawr mewn addysg i weinidogion. Mae dylanwad y ddau weinidog pwysig hwn yn amlwg iawn yn y cyfrolau a olygwyd ganddynt. Yng nghyfnod Dr Hugh Jones cynhwyswyd llawer o erthyglau sylweddol ar hanes Methodistiaeth a'r gweinidogion a lleygwyr mwyaf dylanwadol yn y gwaith Cymraeg. Yn briodol iawn, Dr