Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y tro cyntaf nifer o'r storïau i blant gan E.Tegla Davies, yn cynnwys Nedw, YDoctorBach, Stori Sam ac, wrth gwrs, Hunangofiant Tomi. Os edrychwch trwy dudalennau'r Winllan rhwng canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chanol yr ugeinfed ganrif, fe welwch newidiadau mawr yn y testunau a'r cyflwyniad, sy'n dangos mor galed oedd y golygyddion a'r argraffwyr yn gweithio i geisio darganfod y ffordd orau i ennill diddordeb eu darllenwyr ifainc. Yn 1877 lansiwyd papur newydd wythnosol ar gyfer y Wesleaid Cymraeg, sef Y Gwyliedydd. Pwrpas Y Gwyliedydd oedd darparu pytiau bychain o newyddion ac ambell erthygl fer. Fel papur newydd roedd yn llawer llai trwm na'r Eurgrawn. Yn ein dyddiau ni gwelsom Y Gwyliedydd ei atgyfodi o 1987 ymlaen trwy ymdrechion arwrol y diweddar Owain Owain a'r rhai a ddaeth ar ei ôl. Er mai pob dau fis yn unig y cyhoeddir Y Gwyliedydd cyfoes rwy'n ffyddiog fod pob un ohonom yn edrych ymlaen ato a mwynhau'r newyddion a'r erthyglau byrion, ac yn canmol safon uchel y cyflwyniad a'r dyluniad lliwgar. Trueni nad oes modd atgyfodi'r Dyddiadur hefyd, a oedd mor hynod o ddefnyddiol a llawn gwybodaeth. Gwaith mawr arall y Llyfrfa oedd cyhoeddi'r llyfrau emynau a ddefnyddiwyd gan y Wesleaid dros y blynyddoedd. O 1927 ymlaen, wrth gwrs, cawsom lyfr ar y cyd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond cyn hynny roedd gennym ein llyfr ein hunain gyda llawer mwy o emynau Charles Wesley mewn cyfieithiad nag sydd yn llyfr 1927 a'r atodiad, a llawer mwy hefyd nag sydd yn y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd. O ystyried mor fach mae Methodistiaeth Wesleaidd wedi bod erioed o gymharu â'r enwadau Cymraeg eraill, mae ein cynnyrch hanesyddol yn glodwiw iawn. Ymddangosai llawer o erthyglau hanes dros y blynyddoedd yn Yr Eurgrawn. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gallwn nodi'r gyfres o hanesion o achosion lleol gan Lot Hughes. Fe, wrth gwrs, oedd testun astudiaeth gan y Parch. E.H. Griffiths mewn rhifyn arbennig o Bathafarn.6 Paratôdd Lot Hughes y ffordd am lyfrau pwysig. Fel dathliad o ganmlwyddiant Wesleaeth Gymraeg ysgrifennodd T. Jones-Humphreys ei gyfrol gyda'r teitl Methodistiaeth Wesleyaidd Cymreig (1900). Ond y gampwaith oedd llyfrau swmpus Dr Hugh Jones, sef Hanes Wesleyaeth Gymreig, a gyhoeddwyd gan y Llyfrfa mewn pedair cyfrol rhwng 1911 a 1913. Pan gofiwch fod Hugh Jones yn ystod y degawd cyntaf o'r ugeinfed ganrif yn Gadeirydd Ail Dalaith Gogledd Cymru, yn olygydd Yr Eurgrawn, yn olygydd llyfr emynau a thonau 1904, yn awdur cofiant am Samuel Davies yr Ail, ac hefyd yn brysur yn paratoi'r Hanes Wesleyaeth mae'n amhosibl peidio â chydnabod ei fod yn wr arbennig iawn er mae'n werth nodi iddo dderbyn cymorth sylweddol gan Tegla a benodwyd yn gynorthwywr i'w helpu gorffen ej waith hanesyddol. Mae Hanes Dr Hugh Jones yn gasgliad o wybodaeth fanwl. Dyma yw ei gryfder. Am ddadansoddiad meistrolgar o gyfnod cynnar Wesleaeth Gymraeg rhaid troi at lyfr arall, a gyhoeddwyd gan y Llyfrfa yn 1935, sef Welsh Wesleyan Methodism 1800-1858 gan A.H. Williams. Dyma lyfr arbennig gan hanesydd da. Gallai unrhyw enwad fod yn falch o gael dau gyfraniad at ei hanes o safon y ddau yma, onid eto mor wahanol, gan Hugh Jones a A.H. Williams. A.H. Williams hefyd oedd golygydd cyntaf Bathafarn, sef cylchgrawn ein Cymdeithas Hanes. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn 1946. Cadeirydd y Gymdeithas Hanes oedd D. Tecwyn Evans a oedd wedi gweithio'n galed iawn i sefydlu'r Gymdeithas. Er i A.H. Williams geisio sicrhau cylchgrawn dwyieithog, ychydig o gyfraniadau Saesneg a dderbyniwyd ac mae Bathafam wedi bod erioed yn bennaf yn gylchgrawn Cymraeg gyda'i brif ddiddordeb yn hanes y Wesleaid Cymraeg eu hiaith. O 1947 ymlaen traddodwyd darlith hanes flynyddol ac mae