Skip navigation

Bathafarn

 - 

Cyf. 32 2003

Llenyddiaeth y Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
rhestr y darlithwyr a'r testunau yn drawiadoP Er i'r ddarlith hanes ddod i ben erbyn hyn braf
oedd gweld rhifyn arall o Bathafarn yn dod o'r wasg yn ddiweddar.
Dau ddyn a ddaeth yn amlwg yn y Gymdeithas Hanes oedd Eric Edwards a Griffith Thomas
Roberts. Camp Eric Edwards oedd cynhyrchu llyfr cyfeiriol hynod o werthfawr, sef Yr Eglwys
Fethodistaidd: Hanes Ystadegol, sy'n llawn o wybodaeth ddefnyddiol dros ben i'r hanesydd. Gŵr
ysgolheigaidd oedd Griffith Thomas Roberts a oedd yn ail olygydd Bathafarn. Fe a gyfrannodd
y bennod ar Fethodistiaeth yng Nghymru yn yr hanes safonol,A History of the Methodist Church
in Great Britain. Mae'r gyfrol goffa i Griffith Thomas Roberts, a olygwyd gan Dr Owen Evans,
yn cynnwys erthyglau diddorol gan rai amlwg ymysg y Methodistiaid Cymraeg heddiw.
Wrth reswm, nid oes gennyf amser yma i gyfeirio at holl gyhoeddiadau'r Llyfrfa, heb sôn am
y llyfrau eraill a gyhoeddwyd gan Fethodistiaid trwy weisg eraill. Ond mae'n bwysig inni gofio
mor eang oedd ystod y cyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan y Llyfrfa. Er mwyn cwrdd ag
anghenion y gwaith fe gyhoeddwyd esboniadau ar yr ysgrythurau, tractau, cyfrolau o
bregethau, cyfrolau o ysgrifau, cofiannau a hunangofiannau, a storïau, ynghyd â phob math o
gyhoeddiadau bychain ar gyfer plant, aelodau'r ysgol Sul, myfyrwyr, a darllenwyr cyffredin yn
egluro'r ffydd Cristnogol yn ôl dealltwriaeth yr Eglwys Fethodistaidd.
I gloi, hoffwn ddod yn ôl at y geiriau hynny gan John Wesley a ddyfynnais ar ddechrau'r
sgwrs fach hon. Dywedodd Wesley: 'The work of grace would die out in one generation if the
Methodists were not a reading people.' Y cwestiwn sydd gennyf yw hyn: a ydym ni fel
Methodistiaid heddiw yn parhau i fod yn bobl sy'n darllen, yn ystyr Wesley o ddarllen er mwyn
dysgu, meddwl a deall? Os nad ydym, mae rhybudd clir i ni yn ei eiriau.
Lionel Madden
Aberystwyth
1. Dyfynnwyd gan Frank Cumbers yn The Book Room (London: Epworth, 1956), t.5. Mae pennod
cyntaf y llyfr ar Wesley and literature' yn cynnwys dyfyniadau eraill sy'n dangos mor bwysig i Wesley
oedd yr arfer o ddarllen.
2. Ceir trafodaeth ar y perthynas rhwng Yr Eurgrawn a'r Methodist Magaúne yn Lionel Madden,
'Blynyddoedd cynnar Yr Eurgrawn', YrEurgrawn, 174 (1982) 52-8.
3. Ceir manylion llawn am y golygyddion, cyhoeddwyr, argraffwyr etc., ynghyd â gwybodaeth am
newidiadau teitl ac is-deitl YrEurgrawn yn Huw Walters, Lìyfryddiaeth Cylchgronau Cymreig 1735-
1850 (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993) tt.32-4.
4. Am hanes y Llyfrfa gw. Eric Edwards, 'Llyfrfa'r Methodistiaid Wesleaidd Cymraeg', Bathafam 22
(1967) 8-23.
5. gw. Brynley F. Roberts, 'The Connexion in print', Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y
Methodistiaid Calfinaidd 16/17 (1992/93) 9-31.
6. E.H. Griffiths, 'Bywyd a gwaith Lot Hughes' Bathafam 29 (1977-86) 2-147.
7. Ceir rhestr o'r darlithwyr a'r testunau yn Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd: hanes ystadegol
(Llandysul: Gomer, 1980), t.62; acAtodiad (1987), t.13.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.