Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfreithiau Hywel DDA, o lawysgrif Coleg Iesu, Rhydychen, LVII. Copïwyd a golygwyd gan Melville Richards, M.A. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957. Tt. x, 151. 8s. 6ch. Llawysgrif o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bymthegfed-o'r un cyfnod, ac efallai yn yr un sgrifen, a'r Llyfr Coch o Hergest-yw'r un a olygwyd gan Mr. Richards. Llawysgrif gyfansawdd yw hi, a gellir edrych arni fel yr hynaf o'i dosbarth-dosbarth sy'n cynnwys hefyd lawysgrif Llansteffan 116 (a gyhoeddwyd gan Mr. Timothy Lewis yn 1912). Defnyddiwyd hi ar gyfer Leges Wallicae 1730 ac Ancient Laws 1841, a galwyd J arni yn y ddau; ond nes cael yr argraffiad hwn yr oedd yn amhosibl gwybod beth yn union a gynhwysai heb droi at y llawysgrif ei hun. Gwnaeth Mr. Richards felly gymwynas fawr wrth baratoi'r argraffiad hwn; a thrueni fod rhaid dweud y buasai'r gymwynas yn sylweddol fwy pe gwnelsid ychydig mwy o waith golygyddol. Ond yn wir mae peth bai ar Wasg y Brifysgol (neu ar Fwrdd y Gwybodau Celtaidd) am fodloni ar gyhoeddi'r llyfr heb fynnu o leiaf ychwanegu geirfa iddo-er mwyn y cyfreithiwr a fyddai'n ei defnyddio'n fynegai i'r testun os nad er mwyn yr ieithydd. Byddai'r 'Mynegai i'r tudalennau cyfatebol yn Ancient Laws a Llyfr Blegywryd' hefyd yn haws ei ddefnyddio petai'n cyfeirio at dudalennau'r argraffiad yn lie tudalennau'r llawysgrif. Yn y mynegai hwnnw gwnaeth Mr. Richards ran fawr o'r gwaith caib a rhaw ar gyfer cymhariaeth rhwng y llawysgrif hon a llawysgrifau cyfansawdd eraill: awgrymaf un cywiriad ynddo (sef darllen '269.19-277 =A.L. i. 112.17-124.16, 126.3-9) er mwyn pwysleisio na ellid dibynnu ar Ancient Laws am fynegiad clir o gynnwys y llawysgrif. Hyfryd fydd gallu troi at yr argraffiad er mwyn gwybod pa ffurf sydd gan J ar adnod yn Llyfr Iorwerth (Venedotian Code Aneurin Owen), oherwydd swyn arbennig y llawysgrif yw'r modd y mae'n ychwanegu defnydd o'r llyfrau eraill at gopi o Lyfr Blegywryd. Peryglus fyddai oraclu am amcanion ei lluniwr wrth ddewis y defnydd hwnnw; dichon iddo fwrw i mewn bopeth nad oedd yn cofio ei fod eisoes yn y llyfr, ond dichon hefyd iddo ychwan- egu'r pethau a oedd o'r gwerth ymarferol mwyaf yn ei gyfnod ef. Dyna'r ffordd y mae'r meddwl yn troi wrth sylwi fod y bennod ar Gyfar, o Lyfr Iorwerth, yma'n gyflawn; ond beth bynnag am hynny, hwn yw'r testun mwyaf cynhwysfawr o'r Cyfreithiau a gyhoeddwyd yn y ganrif hon: mae ynddo bron cymaint arall ag sydd yn Llyfr Blegywryd, er enghraifft. Bydd iddo gan hynny werth arbennig i'r darllenydd cyffredinol yn ogystal ag i'r ymchwiliwr cyfraith. DAFYDD JENKINS. Aberystwyth.