Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GRUFFUDD HIRAETHOG A'l OES. Gan D. J. Bowen. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1958. Tt. x, 86. 8s. 6ch. Disgrifir y llyfr rhagorol hwn fel y cyntaf mewn cyfres He cyflwynir .prif nodweddion gwahanol gyfnodau yn llenyddiaeth a hanes Cymru, gan gysylltu'r hyn a draethir a ffigur canolog ymhob cyfnod'. Y mae i'r cynllun rinweddau amlwg ac nid y lleiaf ohonynt yw'r ffaith fod nodwedd- ion cyffredinol gymaint yn fwy grymus a chredadwy pan ddeuir o hyd iddynt ym mhen draw rhes o fanylion penodol. Cyfnod y Dadeni a drafodir yma, a Gruffudd Hiraethog yw'r ffigur canolog. Hwyrach fod cyfnod y Dadeni yn anad unrhyw gyfnod arall yn gwahodd damcaniaethau anturus yn ei gylch, yn bennaf efallai yn wyneb y rheidrwydd i gyfiawnhau defnydd- io'r enw 'Dadeni' o gwbl ac i raddau hefyd o dan y cymhelliad i briodoli i lenyddiaeth Gymraeg rai o'r nodweddion deniadol hynny sy'n gysyllt- iedig a'r enw mewn gwledydd eraill. O'r herwydd y mae gwerth arbennig mewn astudiaeth ofalus fel hon lie mae'r prif nodweddion a gyflwynir yn gyson gymesur a chyraeddiadau un ffigur canolog a lie disgrifir y cyfnod bron yn llwyr yn nhermau'r ffeithiau y mae'r gwr hwnnw'n ganolbwynt iddynt. O'r braidd, fodd bynnag, y gellir ystyried Gruffudd Hiraethog fel cynrychiolwr ei oes. Oni ellir dadlau hefyd fod rhai o'i gyfoeswyr yn bwysicach nag ef ac yn ehangach eu dylanwad ? Ni pherthyn iddo ychwaith y fantais o fod wedi llunio ei farddoniaeth allan o fanylion ei gyfnod, ei gynefin, a'i gyfoedion (nodwedd a'i gwnaethai, wrth gwrs, yn eithriad trawiadol iawn ymhlith beirdd yr uchelwyr), ac yn sicr nid yw'n apelio atom drwy ei gyfoedion mewn modd a bair fod astudiaeth o'i gerddi ar yr un pryd yn astudiaeth o hanes Cymru yn yr unfed ganrif ar bymtheg. O'r safbwynt hwnnw, yn wir, yr oedd Gruffudd Hiraethog a'i oes yn annibynnol iawn ar ei gilydd. Eto nid oes amheuaeth nad yw'r llyfr hwn, o ran ei gynnwys yn gystal ag o ran ei ddull, yn batrwm gwych ar gyfer y gyfres sydd i ddilyn, ac y mae ei lwyddiant i'w briodoli i'r defnydd deheuig a wneir o Gruffudd Hiraethog fel dolen gyswllt rhwng y gwahanol agweddau ar y bywyd llenyddol. Y mae barddoniaeth yr uchelwyr, rheolau'r gyfun- drefn farddol, addysg y beirdd, dyneiddiaeth, rhetoreg, trai nawdd a dirywiad y gyfundrefn farddol ymhlith y pynciau a drafodir, a chyfrwng neu achlysur eu trafod bob tro yw'r cyfathrachu a'r gorgyffwrdd y bu Mr. Bowen mor drylwyr yn eu dadlennu yng ngyrfa ac yn niddordebau Gruffudd Hiraethog. Fel y gellid disgwyl, y rhan helaethaf o'r defnydd yw gweithgarwch proffesyddol Gruffudd fel bardd. Rhydd ei gysylltiad ag Ystatud Gruffudd ap Cynan ar y naill law ac a'r Pum Llyfr Cerddwriaeth ar y llaw arall gyfle i ddisgrifio cyfundrefn y beirdd a natur yr addysg a gyfrennid iddynt. Rhoddir golwg llawnach ar y traddodiad a ffynnai ar y pryd pan ddad- ansoddir rhai o awdlau a chywyddau Gruffudd ei hun. Dangosir mai