Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWYN A HAINT YNG NGHYMRU A PHYNCIAU MEDDYGOL ERAILL. Gan y Dr. Glyn Penrhyn Jones. Llyfrfa'r Methodistiaid. Tt. 206. 12s. 6c. Bu llawer o son yn ddiweddar am y gagendor sy'n agor rhwng y 'ddau ddiwylliant', y gwyddonol a'r celfyddydol. Dyma lyfr gan wr sy'n teimlo'r un mor gartrefol wrth son am electrocardiograffydd a chywydd. Mae'r llyfr hwn yn pontio bwlch arall, rhwng y llyfr hanes ysgolheigaidd a'r gyfrol boblogaidd. Er i'r awdur seiho ei waith ar aparatws cyflawn o ffynnonellau a manylion dyrys y mae ei arddull yn ystwyth, llyfn, a darllenadwy. Albwm neu gasgliad o ysgrifau yw'r llyfr, a rhai o'r ysgrifau wedi ymddangos eisoes mewn cylchgronau. Un ysgrif sydd yma ar newyn, ond y mae deg ar heintiau a phlau (gan olrhain yr hanes yn ieithyddol, trwy'r croniclau a chorff cerdd dafod) wedyn y mae cyfres o bortreadau o feddygon o Gymry, o'r ddeunawfed ganrif, y ganrif ddiwethaf a'r ganrif hon, yn yr hen wlad, yn Llundain ac America ac i gloi daw ysgrif ddifyr ar ysbrydoliaeth sy'n fwy llenyddol na meddygol ei naws. Y mae digon o ffeithiau manwl yn y gyfrol i foddhau ysgolhaig ond cryfder y gyfrol yw ei thriniaeth fywiog o bobl yn dioddef ac yn gwella. Pobl nid problemau sy'n diddori'r cyhoedd, a llyfr i'r cyhoedd yw'r gyfrol hon. Y mae'r awdur yn cyfrannu at ein difyrrwch a'n gwybodaeth, ond efallai mai ychydig o'r ysgrifau sy'n gofyn y cwestiynau y mae hanesydd yn eu gofyn. Y mae'r awdur yn olrhain achosion cymdeithasol ac yn cyffredinoli'n arwyddocaol yn yr ysgrifau am newyn ac ar y cysylltiad rhwng yr epidemig a diwygiadau crefyddol ond edrychwn am eiliad ar ei bennod ddiddorol ar Glwyf y Marchogion, neu'r Pla Du. Fe fydd yr hanesydd yn flin fod yr awdur wedi colli cyfle, mewn triniaeth mor wybodus, i gysylltu'r plau duon i gyd, o'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd ganol yr ail ganrif ar bymtheg, mewn un 'pandemig' arswydus gallasai felly fod wedi egluro i ni paham yr achubwyd plant a henoed yn 1349, paham y bu'r plant farw wedyn ym Mhla'r Plant, paham y disgynnodd y pla mewn cyfnod o dywydd drwg o gynaeafau glawog a gaeafau gwlyb, paham yr oedd y pla yn ailgydio genhedlaeth ar 61 cenhedlaeth, a phaham yr oedd yn canolbwyntio'n raddol ar y trefi mawrion gan ddiweddu yn Llundain yn 1665. Y mae'r awdur yn barod iawn i groniclo'r heintiau a'r ymosodiadau o'r pla du, ond torrir ar rediad rhesymegol yr hanes trwy fywhau'r tudalennau a chyfeiriadau at y pla du yn y cywyddau, gan ddychwel eto at 1665 heb lawer o gasglu a chyffredinoli am y pla yn hanesyddol. Triniaeth ardderchog yw hon, ond nid triniaeth hanesydd mohoni. Y mae'r awdur yn rhagori wrth olrhain achosion meddygol y plau a'r clefydau ac wrth roi portreadau o ddioddefwyr fel Thomas Jones Dinbych ac y mae ar ei orau yn portreadu meddygon y ddeunawfed