Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ganrif fel Richard Evans a Griffith Roberts. Sonia yn ei ragair yn ostyng- edig mai hanes y werin sydd yma, ond mewn gwirionedd y mae llawer o hanes am unigolion nodedig iawn, ac am uchelwyr fel noddwyr y cywyddwyr neu bendefigion cyfnod mwy diweddar, heblaw'r werin dlawd. Y mae yna duedd mewn cofiannau i roi gormod o ffeithiau dibwys, ond er cymaint y son yma am unigolion y mae'r awdur yn cadw'r manylion dan reolaeth. Pan ewch chi mewn i'ch siop lyfrau peidiwch a dychryn wrth weld ar glawr y gyfrol ddarnau distumog o gyrff neu wrth weld darluniau y tu fewn i'r cloriau o ddioddefwyr heintus mewn cyflwr echrydus. Nid hanes trasiedi a thristwch sydd yma, ond hanes gwelliant a chynnydd, twf gwybodaeth er gwell, hanes sy'n cryfhau ein ffydd a'n hymddiried yn ein cyd-ddynion. Nid anaddas yw hi mai Llyfrfa'r Methodiastiaid sy'n cyhoeddi'r gyfrol ddiddorol hon. Coleg Antwn Sant, Rhydychen. PRYS MORGAN.