Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

from Conquest to Reformation. Ac fe welir ynddo hefyd barodrwydd tra derbyniol i ddaipcaniaethu ac i gynnig syniadau newydd i'w hystyried a'u profi. Fel canlyniad, wrth gwrs, nid yw'n waith hawdd o gwbl ei adolygu! Ymdrin y mae'r llyfryn ag 'effaith y Dadeni a'r Diwygiad ar ddiwylliant Cymru' o safbwynt ysgolhaig sy'n cyfuno ynddo'i hun ddiddordebau'r hanesydd, yr hanesydd lien, a'r cymdeithasegwr. Ceir cipolwg i ddechrau ar rai o brif themau meddyliol y Dadeni yn Ewrop, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y pwyslais ar addysg a diwylliant lleygwyr. Wedi awgrymu pam y cafodd y pwyslais hwn dderbyniad mor barod yn Lloegr y Tuduriaid, eir ymlaen i drafod perygl a chyfle'r pwyslais o safbwynt Cymru: perygl yr anwybyddid yr iaith Gymraeg fel iaith dysg gan y lleygwyr diwylliedig newydd, a chyfle i gyflwyno darlun o'r Gymraeg fel iaith y gellid ymfalchïo ynddi oherwydd ei thras, ei hen ddiwylliant, ei rhinwedd cynhenid, a'i chenhadaeth ddwyfol. Ceisid cyflwyno'r darlun hwn i bawb llythrennog: nid yn unig i'r uchelwyr ond hefyd i 'gyfreithwyr, beirdd, marsiandwyr, crefftwyr, a hefyd ambell i benteulu mwy cefnog ymhlith y rhydd-ddeiliaid a'r tenantiaid mwyaf sylweddbl'. Y cyfrwng amlwg i gyflwyno'r darlun hwn trwyddo oedd y wasg argraffu, a thrafodir y rhesymau pam na chafwyd mwy o argraffu yn Gymraeg yn ystod y cyfnod-yn bennaf am fod Cymru'n wlad dlawd ac anhygyrch, a bod ei llenyddiaeth (meddir) o ran traddodiad yn llafar ei hansawdd. Yna ymdrinir ag effaith dyfodiad llyfrau printiedig ar lenyddiaeth Gymraeg: ym maes barddoniaeth, ychydig ohonynt a gyhoeddwyd, ac eglurir hyn yn y pen draw fel canlyniad diffyg noddwyr (a beirdd) o'r math iawn; 'r oedd y rhagolygon yn fwy ffafriol ym maes rhyddiaith, ond yma eto cymharol ychydig o lyfrau rhyddiaith a gyhoeddwyd, a hynny am yr un rheswm, sef diffyg nawdd digonol. Cloir drwy awgrymu mai'r rheswm sylfaenol dros fethiant dyneiddiaeth yng Nghymru oedd fod 'y ddelfryd lenyddol wedi datblygu'n gynt na'r gymdeithas Gymreig. Delfryd yn perthyn i wareiddiad llysol a dinesig yn ei hanfodion oedd delfryd y Dadeni. Cymdeithas amaethyddol fugeiliol yn ei hanfodion oedd y gymdeithas Gymreig o hyd'. Ond maentumir ar yr un pryd fod llwyddiant y dyneiddwyr yn sicrhau mai'r Gymraeg fyddai iaith crefydd wedi sefydlu traddodiad llenyddol y gallwyd ymaflyd ynddo ddwy ganrif a mwy yn ddiweddarach 'pan ddaeth cymdeithas yng Nghymru yn ddigon cyfoethog i allu cynnal llenyddiaeth brintiedig yn yr iaith Gymraeg'. Mae'n amlwg fod llawer iawn o wirionedd yn y darlun hwn, a bydd raid i bawb sy'n gweithio yn y maes o hyn ymlaen ei ystyried yn ofalus ac o ddifrif. Yn lie manylu ar rinweddau eglur y llyfryn, fodd bynnag, cystal imi ddilyn esiampl ei awdur a nodi rhai cwestiynau a ddaeth i'r meddwl wrth ei ddarllen ('r wy'n anwybyddu ambell osodiad a phwyslais y tueddaf i anghytuno a hwynt, gan mai a manylion yn unig yr ymwnant). Yn gyntaf, onid yw'n rhaid cydnabod mai hyd at ryw bwynt yn unig y mae diddordebau'r hanesydd llên a'r hanesydd cymdeithas yn cydredeg?