Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

work. In one of these there is a quality such as Modigliani found in his ageless peasants: in both the hands are as expressive as the face. It is good to think that a community which again faces a grim challenge-the colliery which gave it life having come to its end-has produced its own worthy historian. IEUAN GWYNEDD JONES Swansea TREM YN OL: HANES CYLCH CORRIS A PHLWYF TAL-Y-LLYN. Gan J. Arthur Williams. Pwyllgor Cofnodion Cyngor Sir Meirion, 1963. Tt. 119. Bu Meirion yn ffodus yn ei hynafiaethwyr, dynion hirben megis Penyddon yn y Bala, Evan Roberts yn Llandderfel ac, wrth gwrs, Bob Owen yng Nghroesor (er fod yr anghymarol Bob yn fwy na hynafiaethwr a'i deyrnas yn ymledu ymhell y tu allan i ororau Meirion). A bellach i'r cylch hwn rhaid ychwanegu enw Arthur Williams, Corris. Bid siwr nid wrth linyn mesur yr hanesydd academig y mae mesur ei lyfryn ar hanes plwyf Tal-y-llyn, oherwydd nid hanesydd mohono ond hynafiaethydd. Pennaf swydd yr hynafiaethydd yw bod yn gof gwlad, yn geidwad, ac yn gasglwr traddodiadau llafar ac ysgrifenedig ei ardal. 'Cadw ty mewn cwmwl tystion', meddai Waldo, yw bod yn genedl, ac un o'r tystion pwysicaf yn bendifaddau yw'r hynafiaethwr. Yn rhinwedd hyn yn unig dylid croesawu pob llyfr ar hynafiaethau ardal, ond nid oes rhaid amddiffyn y llyfr hwn ar sail bietistig yn unig. Mae ynddo stor o fanylion y gall yr hanesydd synhwyrol a sensitif wneud defnydd da ohonynt. Er enghraifft, ceir yn y gyfrol doreth o wybodaeth am enwau lleoedd y cylch, tystiolaeth a all fod o bwys mawr mewn ardal lie mae cymaint o'r bythynnod a'r ffermydd wedi dadfeilio a hyd yn oed diflannu o fewn cof yr awdur. Pe bae ond i foddio'r glust mae'n werth rhoi yr enwau hyn yn ddiogel ar gof a chadw, enwau megis Pentre-dol Amarch, Pulpud y Cythraul, Braich y Gwargwm, a Bwlch y Tri Arglwydd (sef y man y cyferfydd ffiniau Ystumanner, Mawddwy, a Chyfeiliog). Ni cheir y rhan fwyaf o'r enwau hyn ar fap nac mewn llyfr, ac o'u hiawn-ddefnyddio gallant fod o werth mawr i'r ieithydd a'r hanesydd. Ceir yma hefyd ddefnyddiau crai ar gyfer ysgrifennu hanes twf y diwydiant llechi a'r eglwysi anghydffurfiol, law yn Haw o ran amser, ym mro Corris. Gyda'r defnydd hwn a chyda help cofnodion eraill gellid ysgrifennu astudiaeth hanesyddol-gymdeithasol o un o ardaloedd mwyaf diddorol Meirion. Mae Mr. Williams yn arbennig o dda yn ei ddisgrifiadau o'r wyth chwarel ar hugain sydd wedi eu cloddio, rhyw dro neu gilydd, o fewn terfynau'r plwyf. Diau y gellid ychwanegu llawer o gofnodion preifat ar hanes y gwahanol chwareli, ond ym myd techneg chwarela prin y gellid cael gwell athro na goruchwyliwr chwarel Aberllefenni. Nid chwarelwr yn unig mo Mr. Williams, ond capelwr selog hefyd. Mae cryn